Mae Gwasanaeth Llyfrgell Ceredigion yn falch o gymryd rhan yn sialens ddarllen yr haf i blant, sef Ar eich marciau, Darllenwch.

Prif thema’r Sialens eleni yw gemau a chwaraeon, cadw’n heini, ac ymarfer y corff a’r meddwl. Bydd y Sialens yn dechrau ar ddydd Sadwrn 08 Gorffennaf 2023, ac yn parhau tan ddiwedd mis Medi.

Gall plant rhwng 4 ac 11 oed ymuno â Sialens Ddarllen yr Haf trwy ymweld â’n llyfrgelloedd yng Ngheredigion, neu ar-lein trwy wefan y Sialens Ddarllen, gan ymuno â thîm anhygoel o ddarllenwyr ifanc ar draws y wlad sy’n cymryd rhan yn y Sialens eleni.

Trwy gymryd rhan yn Ar eich marciau, Darllenwch, bydd y plant yn derbyn deunydd am ddim o’r llyfrgell, ac yn cael eu hannog i gadw eu hymennydd a’u cyrff yn fywiog dros wyliau’r haf trwy ddatblygu sgiliau darllen, archwilio deunydd darllen newydd, darganfod diddordebau newydd, a chynnal a gwella eu hyder mewn darllen dros y gwyliau gan sicrhau eu bod yn barod ar gyfer yr ysgol ym mis Medi.

Eleni hefyd, mae Gwasanaeth Llyfrgell Ceredigion wedi cyffroi’n lân wrth gydweithio â Ceredigion Actif i ddarparu adnoddau chwaraeon i’w benthyca am ddim o’u llyfrgelloedd. Yn ogystal â beiciau balans a phecynnau chwarae, bydd modd i blant fenthyca offer tennis, rhaffau sgipio, offer criced a pheli basged, pêl-droed a rygbi o’u llyfrgell leol – a’r cyfan am ddim.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Diwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid: “Mae’n wych gweld ein Gwasanaeth Llyfrgelloedd yn rhan o sialens cenedlaethol – Ar eich marciau, darllenwch. Bydd y sialens yn dangos i bawb bod yna stôr dibendraw o lyfrau i ddifyrru plant a phobl ifanc dros yr haf ac i’w cadw yn y cysgod pan mae’r haul yn rhy danbaid o bosib.  Dyma weithgaredd arall gan y Gwasanaeth sy’n darparu pob math o gyfleoedd i blant a phobl ifanc Ceredigion. Drwy’r llyfrgell leol cewch chi stoc anhygoel o lyfrau difyr i’w darllen ond hefyd mae digon o adnoddau chwaraeon a gemau i’w benthyg hefyd. Byddwn yn annog pob rhiant/gofalwr i ymweld â llyfrgell leol gyda’i blentyn i weld beth sydd ar gael i ddifyrru bob oed.”

Felly ymunwch â ni yn Llyfrgelloedd Ceredigion o 08 Gorffennaf ymlaen ar gyfer Ar eich marciau, Darllenwch i gael haf o hwyl heini.

Gallwch ddod o hyd i'ch Llyfrgell leol yma a chwilota am lyfr o’ch dewis ar-lein: Llyfrgelloedd Ceredigion 

 

05/07/2023