Mae’r digwyddiad rali rhyngwladol, Rali Ceredigion, yn dychwelyd i'r sir unwaith eto eleni a bydd yn cael ei gynnal rhwng 02 a 03 Medi 2023.

Mae Rali Ceredigion yn ddigwyddiad a drefnir yn breifat sy’n creu buddion economaidd i Geredigion, gan ddenu gwylwyr a chystadleuwyr o bell ac agos i fwynhau a threulio amser yn ein sir fendigedig. Dyma ddigwyddiad rhyngwladol sy’n arddangos Ceredigion ar ei orau, ac mae’r trefnwyr yn sicrhau bod yr holl allyriadau carbon sy’n gysylltiedig â’r ceir sy’n cystadlu yn cael eu gwrthbwyso yn gyfrifol, yn ogystal ag arloesi nifer o fentrau amgylcheddol.

Eleni, bydd y rali yn dechrau yn Aberystwyth, ac yn cynnwys cymalau cystadleuol yn ardaloedd y Borth, Cwmerfyn, Cwmystwyth, Llanafan, Clywedog, Nant y Moch ac Aberystwyth.

Mae trigolion sy’n byw ar hyd y llwybrau cystadleuol hyn wedi cael eu hysbysu trwy lythyr ac wedi bod yn rhan broses ymgynghori ac ymgysylltu helaeth yn amlinellu’r hyn sydd i'w ddisgwyl yn ystod y digwyddiad. Gellir gweld y rhestr lawn o’r ffyrdd fydd ar gau, gan gynnwys y mapiau, ar dudalen We ‘Ffyrdd y bwriedir eu cau yng Ngheredigion’.

‘Buddion economaidd’ i Geredigion

Yn 2022, nododd y sector lletygarwch gyfraddau defnydd sylweddol dros benwythnos y digwyddiad, a sicrhaodd y sylw ar y cyfryngau cymdeithasol bod ein adnoddau naturiol yn cael eu rhoi ar y map, sydd wedi bod o fudd i'r sector twristiaeth ehangach.

Mae’r trefnwyr hefyd wedi sicrhau Achrediad Amgylcheddol FIA ac yn awyddus i arddangos technolegau newydd yn y gamp. Mae’r rhain i gyd yn flaenoriaethau sydd wedi’u nodi yn Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Mae Cyngor Sir Ceredigion yn croesawu cystadleuwyr a gwylwyr i ddigwyddiad Rali Ceredigion eto eleni. Bydd digwyddiad ralïo 2023 yn adeiladu ar lwyddiant ysgubol y digwyddiad y llynedd, a ddenodd y gorau o dimau Prydain ynghyd â chriwiau rhyngwladol i'n sir ragorol. Mae’r digwyddiad yn parhau i ddod â buddion economaidd i'r economïau twristiaeth a lletygarwch lleol yng Ngheredigion gyda nifer o fusnesau’r sir yn cyflogi gweithwyr yn y diwydiant hwn.

“Mae’r trefnwyr wedi ymrwymo’n llwyr i gyflwyno mesurau newydd i leihau effeithiau amgylcheddol y digwyddiad, ac ar hyn o bryd dyma’r unig ddigwyddiad ralïo yn y DU sy’n rhedeg i achrediad Rheolaeth Amgylcheddol FIA. Hoffem i bawb sy’n cymryd rhan, o’r cystadleuwyr i'r stiwardiaid, swyddogion a’r gwylwyr fwynhau mewn modd diogel a chyfrifol.” 

I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad, ewch i dudalen Facebook Rali Ceredigion: Rali Ceredigion | Facebook

 

16/08/2023