Mae ymsefydlwyr newydd yng Ngheredigion bellach yn gallu cael mynediad at wasanaeth gwybodaeth am ddim yn eu dewis iaith, yn dilyn lansiad y Platfform Soft 220 yn holl lyfrgelloedd Ceredigion.

I ddefnyddio’r adnodd, mae’n rhaid ymuno â’r llyfrgell. Mae’r platfform yn rhad ac am ddim a gallwch ymuno ar-lein ar https://wales.ent.sirsidynix.net.uk/client/cy_GB/cer_cy neu ewch i’ch llyfrgell leol.

Bydd ymuno â'r platfform yn rhoi mynediad i wybodaeth am fywyd yn y DU mewn sawl iaith, mewn sawl maes, gan gynnwys sgiliau swydd, diwylliant, arferion, crefydd, trafnidiaeth, iechyd a'r GIG.

Bydd hefyd mynediad i ystod o e-adnoddau eraill am ddim megis e-lyfrau, e-lyfrau sain, e-gylchgronau ac e-bapurau newydd.

Mae tîm Cydraddoldeb a Chynhwysiant Cyngor Sir Ceredigion wedi buddsoddi yn y canllaw hwn i helpu pobl sydd newydd symud i Gymru ymgartrefu yn eu cartref newydd ac integreiddio i’r gymuned leol.

Mae’n egluro nifer o bethau a all fod yn wahanol neu’n newydd iddyn nhw wrth iddynt ymgartrefu yn y wlad ac mae’n cynnwys yr holl wybodaeth a’r ffeithiau sylfaenol sydd eu hangen i helpu pobl i addasu i fywyd yng Ngheredigion.

Y Cynghorydd Bryan Davies yw Arweinydd y Cyngor ac Aelod Chabinet ar gyfer Polisi a Pherfformiad sy’n cynnwys Adsefydlu Ffoaduriaid. Dywedodd: “Byddwn yn hyrwyddo’r gwasanaeth hwn ac yn cynorthwyo’r rhai sydd angen mynediad i’n llyfrgelloedd i ddefnyddio’r adnodd newydd gwych hwn. Os oes gan unrhyw un adborth ar ffyrdd o wella’r wybodaeth ar 220 Soft, cysylltwch â’n tîm Cydraddoldeb a Chynhwysiant dros y ffôn ar 01545 570881 neu anfonwch e-bost at clic@ceredigion.gov.uk. Rydym am i bawb sy’n symud i Geredigion deimlo eu bod yn cael eu croesawu a’u cefnogi fel y gallant ddechrau eu bywyd newydd yma gyda hyder.”

Am ragor o wybodaeth ewch i https://wales.ent.sirsidynix.net.uk/client/cy_GB/cer_cy neu dudalen Facebook y Llyfrgell www.facebook.com/llyfrgellceredigionlibrary

 

26/10/2023