Mae cyfle i chi ddweud eich dweud ar Gynllun Cydraddoldeb Strategol newydd Cyngor Sir Ceredigion.
Rhaid i bob awdurdod cyhoeddus gyhoeddi set o amcanion a chynllun sy'n disgrifio'r hyn y byddant yn ei wneud i leihau anghydraddoldeb a mynd i'r afael â rhagfarn a gwahaniaethu.
Gofynnwyd i bobl am eu barn am gydraddoldeb yn ardal Dyfed-Powys yn ystod yr haf. Helpodd yr atebion a ddaeth i law ni i lunio’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol drafft pwysig hwn i wneud bywyd yn well ar gyfer y rheiny sydd dan anfantais oherwydd eu nodweddion.
Mae amcanion cydraddoldeb drafft y Cyngor yn cynnwys:
- bod yn gyflogwr cyfle cyfartal
- meithrin cysylltiadau da a mynd i'r afael â rhagfarn
- sicrhau ymgysylltiad a chyfranogiad, parch a mynediad at wasanaethau
- darparu addysg deg a chynhwysol.
Mae'r cynllun yn manylu ar nifer o gamau gweithredu i gyflawni hyn.
Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid: "Rydym am i bawb yng Ngheredigion deimlo eu bod yn perthyn. Mae gan bawb sy'n byw, gweithio ac astudio yma yr hawl i deimlo'n ddiogel gan wybod y byddant yn cael eu trin yn deg ac â pharch. Rwy'n credu bod ein Cynllun Cydraddoldeb drafft yn addas i'r diben, ond rwyf am wybod beth mae pobl eraill yn ei feddwl."
Ewch ati i ddarllen y cynllun drafft a rhowch wybod i’r Cyngor beth yw eich barn. Mae'r holl wybodaeth ar dudalen We Ymgysylltu ac Ymgynghoriadau.
Os yw'n well gennych gael copi papur, ffoniwch y Cyngor ar 01545 570881 neu galwch i mewn i'ch llyfrgell neu ganolfan hamdden leol a gofynnwch am gopi. Gallwch hefyd gael cymorth ar sut i gyflwyno eich ymatebion yn y lleoliadau hyn.
24/10/2023