Mae ymgynghoriad wedi lansio yn gofyn am eich barn ar ba lefel o bremiymau’r dreth gyngor y dylid eu codi ar eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi yng Ngheredigion.

Ar hyn o bryd, codir tâl ychwanegol o 25% ar ben y lefel arferol o dreth gyngor ar gyfer ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor yn y sir.

Yng Ngheredigion, mae 33,856 o eiddo yn gyfrifol am dalu’r dreth gyngor. O’r rhain, mae 2,289 (6.8%) naill ai’n ail gartrefi neu’n eiddo gwag hirdymor. Mae’r rhan fwyaf o’r ail gartrefi wedi’u lleoli mewn ardaloedd arfordirol, gyda eiddo gwag hirdymor fel arfer yn cael eu gweld mewn ardaloedd mwy trefol.

Mae Cyngor Sir Ceredigion am glywed gennych chi am ddyfodol lefel premiymau’r dreth gyngor, gan gynnwys pa effaith y gallai unrhyw newid ei gael ar gymunedau lleol, yr iaith Gymraeg, twristiaeth a’r economi.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Mae’n hanfodol bwysig ein bod yn clywed gennych chi, y cyhoedd yn gyffredinol, am beth rydych chi’n ei gredu fyddai’r ffordd orau o ddelio â phremiymau’r dreth gyngor. Mae mynd i'r afael â materion ail gartrefi, perchnogaeth tai haf a throsi eiddo preswyl yn osodiadau gwyliau yn flaenoriaeth yn rhan Strategaeth Gorfforaethol awdurdodedig y Cyngor ar gyfer 2022-2027. Mae hyn, ynghyd â chynyddu’r cyflenwad a’r amrywiaeth o dai fforddiadwy yng Ngheredigion, yn rhan allweddol o’r Amcan Llesiant Corfforaethol i greu cymunedau cynaliadwy a gwyrdd sydd wedi’u cysylltu’n dda. Byddwn yn annog pawb sy’n byw ac yn gweithio yng Ngheredigion i lenwi’r arolwg, er mwyn i ni glywed eich barn ar sut i fynd i'r afael â’r mater.”

Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal am chwe wythnos a bydd yn cau ar 29 Hydref 2023. Mynegwch eich barn ar-lein yma: Ymgynghoriad Cyhoeddus ar Bremiwm Treth y Cyngor yng Ngheredigion (dewiswch 'Cymraeg' o'r ddewislen ar dop y dudalen)

Mae copïau papur, fersiynau hawdd eu deall a phrint bras ar gael yn holl lyfrgelloedd a chanolfannau hamdden Ceredigion, gan gynnwys y llyfrgelloedd teithiol. Os ydych angen cysylltu â ni neu angen gwybodaeth mewn fformatau eraill, ffoniwch 01545 570881 neu anfonwch e-bost i clic@ceredigion.gov.uk neu ewch i'r dudalen ar ein gwefan: Ymgynghoriad ar Bremiymau Treth Gyngor Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag Hirdymor

18/09/2023