Cynhaliwyd Wythnos Gwaith Ieuenctid yng Nghymru eleni rhwng 23 a 30 Mehefin 2023. Roedd yn gyfle i arddangos a dathlu effaith ac amrywiaeth Gwaith Ieuenctid ledled Cymru.

Bu Tîm Gwaith Ieuenctid ac Ymgysylltu Ceredigion yn dathlu gydag amrywiaeth o weithgareddau yn ystod yr wythnos, gan gynnwys lansio cystadleuaeth ffotograffiaeth i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed sy’n byw yng Ngheredigion. Mi fyddwch yn medru gweld y ceisiadau buddugol ar galendr elusen Gwaith Ieuenctid ar gyfer 2024.

Derbynwyd 91 llun fel rhan o’r gystadleuaeth, ac roedd yn dasg anodd iawn i’r panel ieuenctid ddewis y 12 llun buddugol, gydag amrywiaeth o luniau creadigol o ansawdd uchel i feirniadu.

Y 12 llun buddugol a ddewisodd y panel ieuenctid oedd lluniau a gyflwynwyd gan – Caitlin Williams (Ysgol Gyfun Penweddig), Amelia Pearson (Ysgol Gyfun Penweddig), Megan Ena Mathias (Ysgol Uwchradd Aberteifi), Monika Wasiak (Ysgol Uwchradd Aberteifi), Haf Grasham (Ysgol Gyfun Penweddig), Arwen Edwards, Anwen Whitehead (Ysgol Gyfun Penweddig), Dion Sisto (Ysgol Bro Teifi), Lleucu-Haf Thomas (Ysgol Uwchradd Aberteifi), Llew Williams (Ysgol Gyfun Penweddig), Rebecca Clarke (Ysgol Penglais) a Seren Baxter-Campbell (Ysgol Uwchradd Aberteifi). Mae’r 12 ymgeisydd llwyddiannus wedi derbyn tystysgrif a thaleb gwerth £20.

Mae Cwmni Theatr Arad Goch yn falch iawn o’r cyfle i arddangos y gwaith gwych yma yn ei ganolfan yn Aberystwyth. Bydd yr arddangosfa ar agor 9.30-4.30, dydd Llun i ddydd Gwener tan 02 Tachwedd 2023.

Da iawn i bawb a wnaeth ymgeisio!

11/09/2023