Dyfarnwyd Cymeradwyaeth Arbennig i Gyngor Sir Ceredigion yn y categori Cyngor Cenedlaethol neu Awdurdod Lleol y Flwyddyn yn y Seremoni Gwobrau Effeithlonrwydd Ynni Cenedlaethol a gynhaliwyd yn Birmingham ar 29 Medi 2023.

Ystyriodd y beirniaid natur, graddfa a chwmpas y gwaith a gafodd ei wneud, gan roi pwyslais arbennig ar integreiddio’n llwyddiannus unrhyw gynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Llywodraeth Leol neu Genedlaethol ym mhrosiectau’r enwebai. Noddwyd y wobr hon gan ECO247.

Cafodd y gwaith ei farnu ar sail:

  • yr effaith a gafodd yn y gymuned leol
  • beth sydd gan y cwsmeriaid a'r gymuned leol i'w ddweud am y Cyngor
  • pa lefel o arbenigedd sydd gan y Cyngor o fewn ei dimau ei hun
  • pa flaenoriaeth y mae'r Cyngor yn ei rhoi ar fynd i'r afael â thlodi tanwydd yn ei gynlluniau presennol

Mae’r Cyngor wedi bod yn darparu cynllun Cymhwysedd Hyblyg ECO yr Awdurdod Lleol ers sawl blwyddyn. Mae'r cynllun hwn wedi helpu cartrefi i leihau eu biliau ynni, mynd i'r afael â thlodi tanwydd a lleihau allyriadau carbon trwy osod systemau gwresogi a mesurau inswleiddio cysylltiedig, gan felly wella effeithlonrwydd ynni a chyfforddusrwydd thermol cartrefi. Mae'r gwaith hwn wedi bod yn hanfodol yn ystod yr argyfwng costau byw ac ynni.

Y Cynghorydd Matthew Vaux yw'r Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am y Gwasanaeth Tai. Dywedodd: “Mae’r wobr hon yn dyst i’r wybodaeth a’r arbenigedd sydd gennym yn yr adran a’i rôl yn y gwaith o wella effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi ar draws Ceredigion. Llongyfarchiadau i bawb a fu’n gysylltiedig â’r gwaith a’r ymdrech i gyrraedd y safonau uchaf.”

Am ragor o wybodaeth am gynllun ECO4 Flex a sut i wneud cais, ewch i dudalen we’r Cyngor: Cymhwysedd Hyblyg ECO4 neu ffoniwch y Gwasanaeth Tai ar 01545 572105.

18/10/2023