Cadarnhawyd achosion positif o COVID-19 yng Nghartref Gofal Preswyl Min y Mor, Aberaeron. Mae sawl aelod o staff a phreswylwyr wedi profi'n bositif. Mae'r holl breswylwyr yn parhau i gael eu monitro'n ofalus.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gweithio'n agos gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i atal y feirws rhag lledaenu yn y Cartref ac i roi cymorth i staff a thrigolion y Cartref.

Mae'r Cartref wedi cysylltu â theuluoedd y preswylwyr i gyd a bydd y staff yn darparu diweddariadau rheolaidd i bob teulu dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf.

Mae gofalu am drigolion ein cartrefi gofal o'r pwysigrwydd mwyaf i Gyngor Sir Ceredigion. Mae ymweliadau â Chartrefi Gofal yng Ngheredigion yn parhau i gael eu hatal ac mae preswylwyr yn cael cymorth i gadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau dros y ffôn a galwadau fideogynadledda / skype. Rydym yn hynod ddiolchgar am y cydweithrediad a ddangoswyd gan staff, preswylwyr cartrefi gofal, eu teuluoedd ac aelodau o'r cyhoedd wrth i ni gymryd pob cam i gadw trigolion Ceredigion yn ddiogel ac yn iach.

Mae trefniadau wedi cael eu gwneud i alluogi teuluoedd, ffrindiau ac ewyllyswyr da adael anrhegion ar gyfer preswylwyr cartrefi gofal Ceredigion mewn lleoliadau cymunedol ledled y sir. Gall pobl sy’n dymuno anfon anrhegion adael parseli ar gyfer preswylwyr mewn Cartrefi Gofal Preswyl yr Awdurdod Lleol yn y lleoliadau canlynol rhwng dydd Gwener 11.12.2020 a dydd Sadwrn 19.12.2020:

  • Llyfrgell Aberystwyth– 10am-12pm & 1pm-4pm
  • Llyfrgell Aberaeron – 10am-12pm & 1pm-4pm
  • Llyfrgell Llanbedr Pont Steffan – 10am-1pm & 2pm-4pm
  • Llyfrgell Aberteifi – 10am-1pm & 2pm-4pm
  • Neuadd Goffa Tregaron:
  • Dydd Mawrth 15.12.2020 a dydd Iau 17.12.2020 – 2pm-4pm  
  • Dydd Llun 21.12.2020 – 4pm-6pm

Atgoffir pobl na ellir derbyn bwydydd wedi’u coginio gartref na blodau/planhigion. Cofiwch hefyd nodi enw’r preswylydd, enw’r cartref ac oddi wrth bwy y mae’r rhodd, ynghyd â rhif ffôn cyswllt, ar eich parsel.

Mae mor bwysig nag erioed ein bod yn cadw pellter cymdeithasol, yn golchi ein dwylo’n rheolaidd ac yn gwisgo gorchudd wyneb pan nad yw’n bosibl cadw pellter cymdeithasol. Mae’n rhaid i bawb sy'n datblygu unrhyw un o symptomau COVID-19 ddilyn y canllawiau hunanynysu a threfnu prawf cyn gynted â phosibl, a’r unig adeg y dylent adael eu cartrefi yw er mwyn cael prawf.

Mae rhagor o wybodaeth a chyngor am y coronafeirws ar gael ar ein gwefan: www.ceredigion.gov.uk/coronafeirws

Diolch am gadw hyd braich i leddfu’r baich. Gyda’n gilydd gallwn gadw Ceredigion yn ddiogel.

Ni fydd rhagor o fanylion yn cael eu darparu ar y mater hwn.

13/12/2020