Mae 11 o orsafoedd gwefru newydd ar gyfer e-feiciau wedi’u gosod yn ddiweddar gan Gyngor Sir Ceredigion mewn gwahanol fannau yn Aberystwyth. Gwnaed hyn ar ôl i’r Cyngor dderbyn grant gan Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru. Mae’r gorsafoedd gwefru hyn am ddim i bawb eu defnyddio a dyma’r rhai cyntaf i gael eu gosod gan awdurdod lleol yng Nghymru.

Mae tair gorsaf newydd ar gyfer e-feiciau wedi’u gosod yn lloches feiciau staff y Cyngor wrth swyddfeydd Canolfan Rheidol a’r gobaith yw y bydd hyn, ar y cyd â’r cynllun Beicio i'r Gwaith, yn annog rhagor o staff i feicio i'r gwaith ac yn helpu i leihau’r galw am lefydd parcio a lleihau tagfeydd i gefnogi ein targedau lleihau carbon.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, yr Aelod Eiriolwr ar gyfer Cynaliadwyedd, “Rwy’n defnyddio e-feic fy hun ac maen nhw’n gynyddol boblogaidd erbyn hyn. Maen nhw’n gallu helpu amrywiaeth ehangach o bobl i gael y manteision a ddaw – i’w hiechyd a’r amgylchedd – yn sgil beicio’n rheolaidd, yn enwedig yn achos beicwyr hŷn neu bobl ag anafiadau sy’n gweld gwerth mewn cael hwb bach, fel sy’n cael ei gynnig gan yr e-feiciau hyn. Rwy’n falch iawn i weld Cyngor Sir Ceredigion yn arwain y ffordd drwy osod y gorsafoedd gwefru newydd hyn.”

Mae’r Cyngor yn falch o fod wedi gweithio mewn partneriaeth â Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Phrifysgol Aberystwyth i osod llochesi feiciau newydd sy’n cynnwys gorsafoedd gwefru e-feiciau.

Mae tair gorsaf e-feiciau wedi’u gosod mewn lloches feiciau newydd wrth Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Dywedodd Pennaeth Ystadau’r Llyfrgell, Mr Huw Williams, “Rydym yn falch o fod wedi gweithio gyda Chyngor Sir Ceredigion ar y prosiect hwn a fydd yn golygu bod ein staff a’n hymwelwyr yn gallu gwefru e-feiciau yn rhad ac am ddim yn y Llyfrgell. Mae beicwyr sy’n ymlwybro i Lyfrgell Genedlaethol Cymru wedi elwa hefyd ar ramp ar gyfer beiciau sy’n cynnig llwybr amgen i feicwyr yn hytrach na’u bod yn defnyddio’r ffordd fawr brysur.”

Yn ogystal, gosodwyd cyfleusterau tebyg yn Neuadd Chwaraeon Prifysgol Aberystwyth a hefyd y tu cefn i Ganolfan y Celfyddydau. Mae cynlluniau ar y gweill i osod dwy orsaf arall ger y Porthordy wrth fynedfa Campws Penglais a hefyd ger Fferm Penglais. Dyma bum gorsaf i gyd yn gwasanaethu Campws Penglais ac maent ar gael yn hwylus i fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr.

Dywedodd Mr Dewi Day, Ymgynghorydd Cynaliadwyedd yn y Brifysgol, “Diolch i’n gwaith gyda Chyngor Sir Ceredigion, mae’r ddarpariaeth parcio beiciau wedi gwella ac mae’r gorsafoedd newydd hyn i e-feiciau yn ychwanegu’n wych at gyfleusterau ein campws. Gall beicwyr naill ai dynnu’r batri o’u beic a’i osod i wefru yn ddiogel y tu mewn i’r orsaf neu gallan nhw gysylltu’r beic a’r orsaf a rhedeg y cebl gwefru i’r batri ar y beic.”

Y nod yw annog rhagor o bobl i ‘deithio’n llesol’ ac os yw’r gorsafoedd hyn yn llwyddiannus, bwriad y Cyngor yw cyflwyno rhagor ohonynt yn y dyfodol.

Ymwelwch â www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/teithio-ffyrdd-a-pharcio/teithio-llesol/ am ragor o wybodaeth ar Deithio Llesol.

 

13/06/2019