Bydd pob annedd ddomestig yn ymddangos yn Rhestr Brisio Treth y Cyngor. Mae'r rhestr ar gael i'r cyhoedd ei gweld yn y swyddfeydd uchod. Rhoddwyd pob eiddo yn un o'r naw band prisio.

Rhestr Brisio 2005

Mae'r bandiau prisio cyfredol yn seiliedig ar werth y farchnad ar Ebrill 1af 2003. Os ydych chi'n anghytuno â'r band y gosodwyd eich eiddo ynddo mae gennych hyd at Fedi'r 30ain 2006 i apelio yn erbyn y prisiad. Pan fydd y cyfnod yma wedi dod i ben gallwch ond apelio yn erbyn y band o dan yr amgylchiadau canlynol:-

  • Ar ôl i'r eiddo gael ei ddymchwel neu ei drosi (e.e. o dai i fflatiau)
  • Pan fu newid ffisegol yn yr ardal a fydd yn effeithio ar werth eiddo ac o fewn 6 mis i:-
  • Newid a wnaed ym mand eiddo gan yr Asiantaeth y Swyddfa Brisio
  • Newid a wnaed ym mand eiddo tebyg i'ch eiddo chi gan y Llys
  • Talu Treth y Cyngor am y tro cyntaf

Rhestr Brisio 1993

Ar ôl Rhagfyr 31ain 2005 ychydig iawn o amgylchiadau all godi lle gallwch apelio yn erbyn eich hen fand prisio. Gellir cael gwybodaeth bellach oddi wrth Asiantaeth y Swyddfa Brisio neu Swyddfa Treth y Cyngor.

Os Byddwch Chi'n Cyflwyno Apêl Nid Yw Hyn Yn Golygu Gallwch Beidio  Thalu Eich Treth y Cyngor
Os bydd eich apêl yn llwyddiannus bydd hawl gennych gael ad-daliadau ar unrhyw Dreth y Cyngor a ordalwyd gennych.

Gellir cael ffurflenni ar gyfer cyflwyno apêl ac unrhyw wybodaeth bellach ar y trefniadau apêl oddi wrth Swyddog Rhestru Asiantaeth y Swyddfa Brisio, Adeiladau'r Llywodraeth, Teras Picton, Caerfyrddin, SA31 3BT. Rhif ffôn y llinell gymorth yw 0845 6001748 neu mi allwch ymweld â'r wefan ar www.voa.gov.uk . Os ydych chi'n anghytuno â phenderfyniad y Swyddog Rhestru bydd gennych hawl i apelio ymhellach i'r Tribiwnlys Prisio.

Bandiau Prisio Trosiannol

Yn ystod y cyfnod trosiannol rhwng Ebrill 1af 2005 a Mawrth 31ain 2008 bydd 'band prisio trosiannol' yn weithredol mewn amgylchiadau pan fo'r sawl sy'n atebol i dalu Treth y Cyngor ar annedd yr union berson ar Fawrth 31ain 2005 ac Ebrill 1af 2005 a bod band yr eiddo wedi cynyddu mwy nag un band. Cyfyngir y cynnydd i 1 band ym mlwyddyn un, 2 fand yn yr ail flwyddyn a 3 band yn y drydedd flwyddyn, gyda'r cynnydd llawn yn y bedwaredd flwyddyn os bydd eich eiddo wedi cynyddu mwy na 4 band.

Ni fydd Bandiau Prisio Dros Dro yn berthnasol I eiddo sydd yn ail gartrefi.

Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ad-dalu'r Awdurdod Lleol am y diffyg yn refeniw Treth y Cyngor yn sgil cyflwyno'r Cynllun Rhyddhad Trosiannol. Gall y swm gaiff ei hawlio yn ôl o Gynulliad Cenedlaethol Cymru fod yn wahanol i'r swm a nodir ar y bil mewn achosion lle y mae disgownt neu eithriad ar y tâl gostyngedig.