​Gallwch osod ystafelloedd yn eich cartref neu mewn rhannau o’ch eiddo i ennill arian.

Os byddwch yn gosod rhan o’ch eiddo ar rent, byddwch chi’n dod yn Landlord Preswyl. Gan mai’ch cartref chi sy’n cael ei osod, gallwch roi llai o rybudd os byddwch am i’r tenant adael, a hynny oherwydd eich bod yn fwy agored i niwed yn eich cartref eich hun. Nid oes gan unrhyw denant hawl i herio lefel y rhent y cytunwyd arno chwaith.

Os ydych chi’n berchen ar yr eiddo, gall fod angen i chi gael caniatâd gan eich benthyciwr morgais i osod rhan o’r eiddo. Os yw’ch cartref yn cael ei brydlesu, bydd angen i chi fwrw golwg dros delerau’r brydles cyn gosod unrhyw ran o’r eiddo.

Pan fyddwch yn gosod ystafell, rhaid i chi sicrhau bod modd i’r tenant ddefnyddio cyfleusterau sy’n cael eu rhannu neu gyfleusterau ar wahân, fel cegin, ystafell ymolchi a thoiled. Rydych chi’n gyfrifol am atgyweirio a chynnal yr eiddo, am unrhyw beiriannau nwy/trydan, ac am ddiogelwch unrhyw gelfi/deunyddiau.

Tenantiaeth neu Drwydded?

Ychydig iawn o hawliau sydd gan unrhyw un sy’n rhannu cartref gyda landlord. Os yw unigolyn yn rhentu ystafell ar sail neilltuedig (exclusive) a bod angen i’r landlord gael caniatâd i gael mynediad i’r ystafell, tybir bod ganddo denantiaeth. Os yw’r landlord yn rhydd i fynd i’w ystafell, er enghraifft i’w glanhau, tybir bod ganddo drwydded i feddiannu. Os oes rhaid i’r unigolyn rannu’i ystafell(oedd) gydag unigolyn arall, ond nid unigolyn o’i ddewis ef, tybir bod ganddo yntau hefyd drwydded i feddiannu.

Telerau gosod

Dylech gytuno ar y telerau o’r dechrau’n deg. Nid oes cyfnod lleiaf wedi’i bennu o ran gosod ystafell yn eich cartref. Gallwch osod ystafell:

  • ar sail gyfnodol – yn treiglo’n amhendant o’r naill gyfnod rhent i’r llall
  • ar sail benodol – yn para am nifer benodol o wythnosau, misoedd neu flynyddoedd

Os na fyddwch chi’n pennu cyfnod penodol, bydd yr ystafell yn cael ei gosod yn awtomatig ar sail gyfnodol. Gall trwyddedau fod yn rhai cyfnodol neu benodol hefyd. O ran trefniadau anffurfiol, gall trwydded fod yn hollol benagored, er enghraifft os byddwch yn caniatáu i ffrind aros yn ôl y gofyn. Ond, fyddwch chi ddim yn gallu galw’r trefniant yn drwydded os na fyddwch yn codi rhent rheolaidd.

Gall cytundebau tenantiaeth ysgrifenedig helpu i ddatrys unrhyw broblem neu anghydfod, ond nid oes rhaid i chi gael cytundeb o’r fath oni bai fod yr ystafell yn cael ei gosod am gyfnod penodol o fwy na thair blynedd.

Tai Amlfeddiannaeth a Thrwyddedu

Pe baech yn gosod rhan o’ch cartref i unigolion nad ydyn nhw’n aelodau o’ch teulu, gallai’ch eiddo gael ei ddynodi’n Dŷ Amlfeddiannaeth. Os felly, byddwch yn ysgwyddo cyfrifoldebau ychwanegol fel landlord. Mae’r ddeddfwriaeth bresennol yn caniatáu i chi osod ystafelloedd i hyd at ddau unigolyn yn eich cartref (sy’n cynnwys plant) heb fod eich eiddo’n cael ei ddynodi’n Dŷ Amlfeddiannaeth. Yn yr un modd, gallwch ddarparu llety ar gyfer staff domestig, plant maeth neu ofalwyr heb i’ch cartref gael ei ddynodi’n Dŷ Amlfeddiannaeth. Ewch i’r dudalen sy’n cynnwys dolenni at Reoliadau a Deddfwriaeth i ddarllen diffiniadau cyfreithiol penodol y mathau hyn o bobl a’r amgylchiadau penodol lle y gall eithriadau o’r fath fod yn berthnasol (gan gynnwys diffiniad o deulu (aelwyd))).

Ewch i’r tudalennau am Dai Amlfeddiannaeth i weld manylion y rhwymedigaethau a allai godi pe bai’ch cartref yn cael ei ddynodi’n Dŷ Amlfeddiannaeth. Yn eu plith bydd rhwymedigaeth i drwyddedu’r eiddo gyda’r Cyngor, ynghyd â dyletswyddau cyfreithiol eraill i sicrhau bod y rhai sy’n byw yn eich eiddo’n ddiogel ac i gynnal a chadw’r eiddo.

Rhent a Biliau

Nid oes unrhyw reolau ar gael sy’n cyfyngu ar y rhent y gallwch ei godi. Fel rheol, byddwch yn cytuno ar y rhent cyn gosod yr ystafell ac yn nodi unrhyw gynnydd i’r rhent yn y cytundeb tenantiaeth.

Rhaid i chi ddarparu llyfr rhent i’r tenantiaid hynny sy’n talu bob wythnos. Nid yw’n orfodol i chi wneud hyn ar gyfer tenantiaid eraill, ond dylech gadw derbynebau a chofnod o’r taliadau.

Gallwch dderbyn Budd-dal Tai i dalu’r rhent. Fel arfer, bydd y Cyngor yn anfon yr arian at y tenant er mwyn iddo dalu’r rhent. Fodd bynnag, gall y Cyngor dalu’r rhent yn uniongyrchol i chi os oes gan eich tenant ôl-ddyledion rhent o wyth wythnos neu ragor neu os oes ganddo hanes o fethu â thalu’r rhent.

Treth Incwm

Bydd rhaid i chi dalu Treth Incwm ar unrhyw incwm rhent y byddwch yn ei gael. Gall fod modd i chi fanteisio ar y lwfans Rhentu Ystafell sy’n caniatáu i chi ennill £4,250 o incwm rhent y flwyddyn heb dalu treth (£2,125 os ydych yn gosod ar y cyd).

Terfynu tenantiaeth

Yn dibynnu ar p’un a yw’r ystafell yn cael ei gosod ar sail eithriedig ai peidio, gallwch roi cyn lleied ag wythnos o rybudd i denant er mwyn iddo adael (gallech roi rhybudd llafar yn achos tenantiaeth eithriedig).

Os bydd y tenant yn gwrthod symud o’ch eiddo, gallwch wneud cais am ‘orchymyn ildio meddiant’. Os bydd llys yn rhoi gorchymyn o’r fath, bydd rhaid i’r tenant adael eich cartref.