Mae Rhaglen Brentisiaeth 2019 y cyngor bellach ar agor ar gyfer ceisiadau tan ddydd Sul 22 Medi.

Mae prentisiaethau’r cyngor yn rhoi cyfle i ddysgwyr feithrin sgiliau a hyder wrth iddynt ennill cyflog ac ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol. Mae rolau ar gael i bawb yn y maes Gweinyddu Busnes, Cymorth Technegol TGCh ac yn y timau Gofal Cymdeithasol.

Mae blwyddyn gyntaf y rhaglen yn tynnu tua’i therfyn, ac mae wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Yn ddiweddar, cwblhaodd Alanah Lloyd Brentisiaeth Gweinyddu Busnes, a dywedodd: “Byddwn yn argymell gwneud prentisiaeth â Chyngor Sir Ceredigion i bob un o’m ffrindiau. Roeddwn yn mwynhau’r cydbwysedd rhwng cael cyfrifoldebau go iawn a chael cyfle i barhau i ddysgu.”

Dywedodd Maria Lloyd, sef mam Alanah, “Roeddwn wrth fy modd pan lwyddodd Alanah â’i chais. Rhoddwyd cyfle iddi arddangos ei hetheg waith a pharhau â’i haddysg mewn sefydliad lle mae cyfleoedd i ddatblygu eich gyrfa. Mae Alanah bellach wedi derbyn swydd barhaol â’r cyngor. Byddwn wir yn argymell prentisiaethau i rieni eraill.”

Meddai Lynne Connolly, Chydlynydd Prentisiaethau a Phrofiad Gwaith, Cyngor Sir Ceredigion, “Eleni, rydym yn parhau i ddangos ein hymrwymiad i feithrin ein gweithlu ein hunain, gan gynnig cyfleoedd i’r rheini sy’n gadael ysgolion a cholegau i barhau â’u haddysg mewn amgylchedd gwaith, a chyfleoedd i aelodau’r gymdeithas ddychwelyd i’r gwaith neu newid eu gyrfa. Mae ein prentisiaid i gyd yn derbyn cyflog sydd llawer yn uwch na lleiafswm y cyflog prentisiaeth, ac mae hyn yn adlewyrchu cymaint yr ydym yn gwerthfawrogi eu cyfranogiad.”

I ymgeisio a chael gwybod mwy, ewch i’r gwefan career.ceredigion.gov.uk neu cysylltwch ag apprentice@ceredigion.gov.uk.

20/08/2019