Mae wedi bod yn gyfnod prysur i Thomas Kendall, Aelod Seneddol Ifanc (ASI) Ceredigion, a Huw Jones, Dirprwy Aelod Seneddol Ifanc Ceredigion, wrth iddynt gychwyn ar eu rolau, ers etholwyd ym mis Ebrill 2019.

Yn ddiweddar, cwrddodd Thomas a Huw â Ben Lake AS, Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion a’r Cynghorydd Catrin Miles, aelod Cabinet dros Wasanaethau Dysgu, Dysgu Gydol Oes a Hamdden. Trafodwyd amrywiaeth o faterion sy'n dylanwadu ar fywydau pobl ifanc yn lleol ac yn genedlaethol.

Hefyd, cwrddodd Thomas a Huw â Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Heddlu Dyfed-Powys, i drafod ymyrraeth troseddu cyllyll yng Ngheredigion ac ar draws yr ardal ehangach mae’r heddlu yn cwmpasu.

Dywedodd Huw, “Mae fy rôl newydd fel Dirprwy ASI Prydain yn cynrychioli Ceredigion yn un cyffrous iawn. Rwy'n teimlo bod hi’n bwysig bod pobl ifanc nid yn unig yn cael dweud eu dweud am faterion pwysig, ond hefyd i leisio eu barn i wneuthurwyr penderfyniadau a llunwyr polisi. Rwyf wedi dysgu mwy am wahanol faterion sy'n effeithio ar bobl ifanc o gyfarfodydd diweddar gyda gwahanol bobl ac rwy'n edrych ymlaen at wneud gwahaniaeth yn fy amser fel Dirprwy ASI, ochr yn ochr â Thomas ASI.”

Mae Thomas a Huw wedi mynychu'r confensiwn cyntaf yn nyddiadur y Senedd Ieuenctid Prydain, lle cawsant gyfle i gwrdd â ASI eraill o bob cwr o Gymru. Maent nawr yn cychwyn y paratoadau ar gyfer y ddadl fyw ym mis Tachwedd.

Dywedodd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, “Roedd yn bleser cwrdd â Thomas a Huw a gwrando ar eu barn, eu pryderon a'u syniadau. Mae'n hanfodol bod pobl ifanc yn cael llais a'u bod yn gallu cyfrannu at drafodaethau a phenderfyniadau ar faterion sy'n effeithio ar bobl ifanc y sir. Pob lwc gyda’r ddadl fyw a pharhewch i leisio eich barn."

Ar 5 Ebrill 2019, etholwyd Thomas Kendall fel Aelod Seneddol Ifanc (ASI) newydd Ceredigion, gan Gyngor Ieuenctid y Sir, i gynrychioli Ceredigion yn Senedd Ieuenctid Prydain yn 2019-2020, gyda Huw Jones yn cael ei ethol fel Dirprwy Aelod Seneddol Ifanc a’n darparu rôl gefnogol i Thomas. Mae Thomas yn astudio yng Ngholeg Ceredigion, Aberystwyth ac mae Huw yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Aberaeron ac yn cynrychioli CFfI Ceredigion ar y Cyngor.

Etholir Aelodau Senedd Ieuenctid (ASI’u) yn flynyddol ym mhob rhan o'r DU. Ar ôl cael eu hethol, mae MYPs yn cyfarfod ag Aelodau Seneddol a chynghorwyr lleol, yn trefnu digwyddiadau, cynnal ymgyrchoedd, gwneud areithiau, yn cynnal dadleuon ac yn sicrhau bod y rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn gwrando ar farn pobl ifanc.

02/08/2019