Mae Tafarn y Ffostrasol Arms, Llandysul wedi cael caniatâd i ailagor ar ôl gwella ei weithdrefnau a'i gyfleusterau mewn ymateb i hysbysiad cau a gyhoeddwyd ar 15 Hydref 2020.

Roedd yn ofynnol i'r dafarn gau gan Swyddogion Diogelu’r Cyhoedd o Gyngor Sir Ceredigion a Heddlu Dyfed-Powys ar ôl torri Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020.

Ers i'r rhybudd cau gael ei gyhoeddi, mae perchnogion y dafarn wedi bod yn gweithio gyda Swyddogion Diogelu'r Cyhoedd i wneud gwelliannau. Caniatawyd i'r adeilad ailagor gan fod Swyddogion bellach yn fodlon bod camau digonol wedi'u cymryd i sicrhau bod yr adeilad a'r staff yn cydymffurfio â cyfyngiadau y coronafirws.

23/10/2020