Cafodd Strategaeth Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc newydd ar gyfer 2018-2021 ei gymeradwyo mewn cyfarfod Cabinet ar 6 Tachwedd 2018.

Mae’r strategaeth yn amlinellu chwe maes i ganolbwyntio arnynt, yn unol ag erthygl 12 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Mae’r meysydd yn cynnwys;

• Hyrwyddo gwell gwybodaeth
• Darparu adborth gwerth chweil
• Annog parch
• Dim gwahaniaethu
• Hyrwyddo profiadau
• Hyrwyddo gwell dewis

Dywedodd yr aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Dysgu, y Cynghorydd Catrin Miles, “Trwy gefnogi’r strategaeth, bydd nawr gan y Cyngor ffocws am y blynyddoedd nesaf ar sut i wella bywydau pobl ifanc yng Ngheredigion. Rydym eisiau sicrhau bod plant a phobl ifanc yng Ngheredigion y cyfleoedd i dyfu, a’r cyfle i gael eu clywed.”

Bydd gweithredu’r strategaeth yn sicrhau bod Cyngor Sir Ceredigion yn bodloni’r Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol ar gyfer Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru. Bydd y strategaeth hefyd yn sicrhau bod gan Blant a Phobl Ifanc Ceredigion fynediad at gyfleoedd a phlatfformau i leisio eu barn. Mae’r strategaeth wedi cael ei ddylunio gan bob ifanc, er lles pobl ifanc ac wedi cael ei ddatblygu gan Wasanaeth Ieuenctid Ceredigion.

07/11/2018