Mae plant rhwng 4 a 11 blwydd oed yn cael eu hannog i gymryd rhan yn Sialens Ddarllen yr Haf 2019. Bydd y sialens yn cael ei lansio mewn llyfrgelloedd ar draws Ceredigion ar 13 Gorffennaf 2019 a bydd yn rhedeg hyd at 28 Medi 2019.

Thema Sialens Ddarllen yr Haf eleni yw’r Ras Ofod, sy’n nodi 50 mlynedd ers i ddyn lanio ar y lleuad am y tro cyntaf. Bydd angen i'r plant ddarllen cyfanswm o 8 llyfr, drwy ymweld â'r Llyfrgell leol 4 gwaith, gan fenthyg a darllen unrhyw ddau lyfr llyfrgell ar gyfer pob ymweliad dros wyliau'r haf.

Bydd cyfle i blant ymuno gyda theulu’r ‘Rockets’ ar gyfer anturiaeth ofod cyffrous wrth iddyn nhw chwilio am lyfrau sydd wedi’u dwyn gan estroniaid direidus o’r gofod. Wrth i’r plant ddarllen llyfrau o’r llyfrgell ar gyfer y Sialens Ddarllen, byddan nhw’n derbyn sticeri a gwobrau arbennig ar bob ymweliad. Wrth ychwanegu’r sticeri i’r ffolderi antur, bydd cyfle i’r darllenwyr ifanc gael llawer o hwyl ac anturiaethau, gan helpu’r ‘Rockets’ ddatrys cliwiau, osgoi asteroidau a darganfod y llyfrau coll ar y ffordd.

Er mwyn cymryd rhan yn y Ras Ofod, bydd rhaid i’r plant ymaelodi â’r Sialens yn eu llyfrgell leol, lle byddan nhw’n derbyn ffolder gasglu er mwyn cadw cofnod o’u siwrnai ar y Ras Ofod. Gall bawb ymuno â’r cynllun yn rhad ac am ddim.

Dywedodd Delyth Huws, Llyfrgellydd Plant yng Ngheredigion, “Mae hwn yn gynllun gwych er mwyn meithrin cariad at ddarllen, a hefyd er mwyn cynnal lefelau llythrennedd plant yn ystod gwyliau’r haf. Y llynedd fe wnaeth bron i 800 o blant ledled Ceredigion gymryd rhan yn y Sialens Ddarllen, gyda dros 450 yn derbyn medalau a thystysgrifau ar ôl cwblhau eu 4ydd ymweliad.

Dwi’n siŵr y bydd thema’r Gofod eleni yn profi’r un mor boblogaidd â thema llynedd, ac edrychwn ymlaen at weld plant Ceredigion yn dod i’n llyfrgelloedd er mwyn mwynhau’r holl lyfrau sydd gan ein gwasanaeth llyfrgell wych yma yng Ngheredigion i’w gynnig.”

Os hoffech fwy o wybodaeth am y Sialens Ddarllen yr Haf, cysylltwch â delyth.huws@ceredigion.gov.uk neu emyr.lloyd@ceredigion.gov.uk, neu ar y ffon ar 01970633717

11/07/2019