Dim ond pythefnos sydd i fynd nes y dyddiad cau i gofrestru i bleidleisio yn yr Etholiadau Lleol ym mis Mai, ac mae Cyngor Sir Ceredigion am annog trigolion i wneud yn siŵr eu bod wedi cofrestru mewn pryd.

Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yw hanner nos ar 14 Ebrill. Gallwch wneud cais ar-lein yn gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio. Dim ond pum munud mae'n ei gymryd.

Ddydd Iau 5 Mai, bydd pleidleiswyr yn cael dweud eu dweud am bwy fydd yn eu cynrychioli ar lefel leol. Eleni, bydd trigolion yng Ngheredigion yn pleidleisio i ddewis cynghorwyr sy'n cynrychioli eu hardal leol a'i thrigolion ac yn cyfrannu at y gwaith o ddatblygu polisïau mewn meysydd megis trafnidiaeth, gofal cymdeithasol a thai.

Os nad ydych am bleidleisio'n bersonol, gallwch gofrestru ar gyfer pleidlais bost hyd at 5:00pm ddydd Mawrth 19 Ebrill. Fel arall, ar gyfer pleidlais drwy ddirprwy gallwch wneud cais tan 5:00pm ddydd Mawrth 26 Ebrill.

Eifion Evans yw Swyddog Canlyniadau Ceredigion. Dywedodd: “Gyda dim ond pythefnos i fynd, nid oes gennych lawer o amser i sicrhau y gallwch gymryd rhan yn yr etholiadau lleol. Mae'r etholiadau hyn yn gyfle pwysig i ddweud eich dweud am bwy sy'n eich cynrychioli ar faterion sy'n cael effaith uniongyrchol ar fywyd beunyddiol yma yng Ngheredigion. Er mwyn pleidleisio yn yr etholiadau, rhaid i drigolion fod ar y gofrestr etholiadol. Felly os na fyddwch wedi cofrestru erbyn 14 Ebrill, ni fyddwch yn gallu cymryd rhan.”

Os ydych wedi cael eich pen-blwydd yn 16 oed neu wedi symud cartref yn ddiweddar, mae'n arbennig o bwysig eich bod yn gwneud yn siŵr eich bod wedi cofrestru i bleidleisio yn gywir.

Os oeddech wedi cofrestru i bleidleisio yn yr etholiad diwethaf ac nad yw eich manylion wedi newid, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth. Os oes unrhyw amheuaeth, gallwch gadarnhau dryw gysylltu â Gwasanaethau Etholiadol Ceredigion ar 01545 572032 neu electoralservices@ceredigion.gov.uk

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'n tudalen we ar gyfer pleidleiswyr: www.ceredigion.gov.uk/pleidleiswyr

25/03/2022