Yn dilyn ymgyrch recriwtio lwyddiannus a gynhaliwyd dros yr haf, cymerodd pedwar o bobl ifanc o Geredigion eu camau cyntaf yn eu gyrfa yn ddiweddar.

Dechreuodd y pedwar ymgeisydd llwyddiannus fel prentisiaid gyda Cyngor Sir Ceredigion ym meysydd Gweinyddu Busnes Adnoddau Dynol, Gofal Cymdeithasol, a Gwaith Ieuenctid ar ddechrau mis Tachwedd.

Dywedodd Alanah Lloyd pam yr ymgeisiodd am Brentis Gweinyddu Busnes Adnoddau Dynol, a sut y mae hi’n ymgartrefu, “Ymgeisiais oherwydd roeddwn i eisiau ennill cymhwyster ac ennill cyflog ar yr un pryd. Roeddwn i eisiau gweithio i’r Cyngor lle mae cyfleoedd i symud i swyddi uwch. Mae pawb wedi bod yn gefnogol iawn ac rwy’n setlo mewn yn dda.”

Bu’r rhaglen brentisiaeth newydd yn boblogaidd. Derbyniodd y Cyngor ddiddordeb sylweddol a nifer uchel o geisiadau. Yn un o’r cyflogwyr mwyaf yn yr ardal, mae’r Cyngor yn bwriadu ehangu’r rhaglen brentisiaeth i ddatblygu mwy o gyfleoedd i drigolion Ceredigion. Nod y rhaglen yw darparu cyfleoedd o ansawdd i bobl ifanc, a’u helpu i ddysgu, ennill arian, a datblygu gyrfaoedd yn y sir fel dewis amgen i goleg neu brifysgol.

Dywedodd y Cynghorydd Ray Quant MBE, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Bobl a Threfniadaeth, “Mae nifer y ceisiadau a’r ymholiadau y mae’r Cyngor wedi’u derbyn yn dangos bod lefel uchel o ddiddordeb mewn cyfleoedd prentisiaeth i bobl Ceredigion. Rwy’n falch iawn o weld ein pedwar prentis yn dechrau, ac yn edrych ymlaen at weld sut y byddant yn datblygu dros y misoedd i ddod. Mae’r Cyngor yn ymroddedig i fuddsoddi yn nyfodol ein pobl.”

Bydd y Cyngor yng Ngŵyl Gyrfaoedd Ceredigion ddydd Mawrth, 19 Chwefror yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, o 9yb tan 4yp i drafod prentisiaethau a gyrfaoedd. Trefnir y digwyddiad gan Gyrfaoedd Cymru ac mae’n agored i ddisgyblion o flwyddyn 9 i flwyddyn 13 yng Ngheredigion, gyda chroeso i rieni hefyd.

Am fwy o wybodaeth am brentisiaethau gyda Chyngor Sir Ceredigion, cysylltwch ar prentis@ceredigion.gov.uk

 

15/11/2018