Ym mis Rhagfyr 2021, fe wnaeth Gwasanaeth Ysgolion Ceredigion, Gwasanaeth Ieuenctid, CAVO gyda thîm Cysylltu â Charedigrwydd Ceredigion alw ar bobl ifanc i ddylunio murlun yn seiliedig ar y thema Caredigrwydd a ddechreuodd yn ystod Wythnos Gwrth-fwlio Cenedlaethol ym mis Tachwedd y llynedd.

Datblygwyd y syniad hwn o ymgyrch Cysylltu â Charedigrwydd Bwrdd Partneriaeth ranbarthol Gofal Gorllewin Cymru (PGGC), gyda'r nod o greu mwy o ddealltwriaeth am fudd ac effaith caredigrwydd i ni a phobl eraill. Mewn ysgolion, mae'r ymgyrch yn pwysleisio sut mae caredigrwydd yn yr ystafell ddosbarth yn annog positifrwydd fydd yn aros gyda’r plant trwy gydol eu bywydau. 

Cyfarfu panel o feirniaid ym mis Rhagfyr i fynd drwy'r llu o ddyluniadau creadigol gwych a dderbyniwyd gan unigolion a grwpiau. Roedd y panel yn cynnwys Poppy Evans, Aelod Seneddol Ieuenctid Prydain a Lloyd Warburton, Aelod Senedd Ieuenctid, Senedd Ieuenctid Cymru lle cytunwyd ar ddau ddyluniad buddugol.

Crëwyd y dyluniad buddugol gan grŵp o ddisgyblion Ysgol Bro Teifi gydag Ysgol Llanfarian yn cyraedd yr ail safle. Rhoddodd Ysgol Llanfarian gyflwyniad at ei gilydd yn esbonio'r broses o sut y bu plant a phobl ifanc o bob oed yn cydweithio i greu'r dyluniad terfynol.

Fel gwobr am ennill y gystadleuaeth dylunio murlun, bydd Deon o ‘Marvellous Murals’ yn dod â'u cynlluniau'n fyw ar safle'r ysgol cyn y gwanwyn eleni. Bydd hyn yn galluogi'r plant a'r bobl ifanc i gael eu hatgoffa o'r neges bwysig o fod yn garedig wrthyn nhw eu hunain ac eraill gyda dyluniad lliwgar a trawiadol y maent wedi'i ddylunio eu hunain.

Bydd pob ysgol arall a gymerodd rhan sef Llangwyryfon, Rhydypennau, Penweddig, Ysgol Gymraeg, Penrhyncoch, Myfenydd, Padarn Sant a Bro Pedr yn derbyn £200 a bathodyn Cysylltu â Charedigrwydd gan y Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gofal Gorllewin Cymru i'r disgyblion ddathlu eu creadigrwydd a charedigrwydd.

Y Cynghorydd Catrin Miles yw’r Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Cymorth ac Ymyrraeth. Dywedodd: “Llongyfarchiadau i Ysgol Bro Teifi ac Ysgol Llanfarian am ddod i’r brig yn y gystadleuaeth dylunio murlun. Mae'n braf gweld pobl ifanc a phlant yn cael y cyfle i greu celf a chael eu hysbrydoli gan y neges garedigrwydd gan ei bod yn neges syml ond pwysig iawn y mae angen i bob un ohonom ddilyn. Da iawn i bob ysgol a gymerodd ran.”

Os hoffech gymryd rhan a lledaenu ymwybyddiaeth am yr ymgyrch, rhannwch eich syniadau ar dudalen Facebook Ceredigion  www.facebook.com/groups/1133691123675080 neu’n rhanbarthol ar www.facebook.com/ConnectToKindnessWestWales . I gael gwybod mwy ffoniwch 01545 574200 neu ebostiwch cyra.shimell@ceredigion.gov.uk

11/02/2022