Mae map Teithio Llesol newydd ar gael sy’n nodi llwybrau a chyfleusterau cerdded a beicio yn Aberystwyth. Cynhyrchwyd y map gan Gyngor Sir Ceredigion mewn partneriaeth â Sustrans, elusen trafnidiaeth gynaliadwy'r DU.

Cafodd Aberystwyth, ynghyd ag Aberteifi a Llanbedr Pont Steffan, ei dynodi fel tref Teithio Llesol dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013.

Gwnaeth swyddogion Priffyrdd y Cyngor, mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, osod seilwaith beicio newydd er budd eu staff ac ymwelwyr. Cafodd gorsaf drwsio beiciau cyhoeddus newydd ei osod ger lloches beiciau wrth fynedfa Campws Penglais Prifysgol Aberystwyth yn ystod y misoedd diwethaf. Gall beicwyr ddefnyddio hyn i wneud mân atgyweiriadau ac addasiadau gydag ystod o offer sydd ar gael. Mae pwmp yno hefyd sy’n gallu cael ei ddefnyddio gan ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio yn ogystal â beicwyr ar gyfer pwmpio teiars.

Mae ramp olwyn beic wedi’i osod i help beicwyr i ddod i ben â grisiau sydd ychydig islaw’r Llyfrgell Genedlaethol, sy’n gyswllt poblogaidd i’r Llyfrgell a’r Brifysgol i’r rhai sy’n dymuno osgoi’r briffordd brysur. Dywedodd Paul Scullion sy’n gweithio ym Mhrifysgol Aberystwyth, “Mae’r ramp olwyn beic newydd hwn wedi gwneud beicio i’r gwaith bob dydd llawer yn haws nag yr oedd oherwydd o’r blaen roedd yn rhaid i mi godi a chario fy meic i fyny ac i lawr y grisiau hyn, oedd yn eithaf lletchwith. Nawr, gallaf roi olwynion fy meic yn rhigol y ramp a gwthio fy meic yn lle hynny – mae’n wych.”

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Edwards, yr aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol, “Mae’r map teithio llesol hwn ar gyfer Aberystwyth yn dangos lleoliad y cyfleusterau arloesol hyn ar gyfer beicwyr yn y dref yn ogystal â mannau parcio beiciau. Mae’r map yn dangos llwybrau beicio di-draffig sy’n cynnig opsiynau eraill ar gyfer beicwyr sy’n llai hyderus wrth ddefnyddio’r ffyrdd. Rydym yn parhau i ddatblygu cynigion i adeiladu ar y gwelliannau a wnaed yn ystod y blynyddoedd diwethaf a chynyddu’r rhwydwaith hwn o lwybrau di-draffig ymhellach fel y bydd mwy o bobl yn cael eu hannog i wneud teithiau heb gar i leoedd gwaith, addysg ac ati. Hoffem atgoffa beicwyr i wastad nodi a pharchu arwyddion a marciau ffyrdd sydd ar waith a defnyddio llwybrau a rennir yn ofalus, gan fod yn ymwybodol yn arbennig y gallai rhai cerddwyr fod â nam ar eu golwg neu ar eu clyw.”

Bydd y map dwyieithog newydd ar gael am ddim yn swyddfeydd y cyngor, Llyfrgell y Dref, y Ganolfan Groeso, Canolfan Hamdden Plascrug a siopau beiciau lleol. Gellir ei weld a’i lawrlwytho o dudalen we Teithio Llesol y cyngor www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/teithio-ffyrdd-a-pharcio/teithio-llesol neu ar wefan Sustrans, www.sustrans.org.uk/sites/default/files/file_content_type/aberystwyth_web.pdf

Mae’r map newydd a chyfleusterau beicio a cherdded gwell wedi’u gweithredu gan Gyngor Sir Ceredigion a’u hariannu trwy Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru ac arian cyfatebol gan y cyngor.

28/01/2019