Mae'r canlyniadau TGAU a gyhoeddwyd heddiw (23 Awst) gan CBAC yn dangos bod ysgolion Ceredigion yn parhau i gynnal safonau eithriadol o uchel.

Derbyniodd 98.5% o'r ymgeiswyr a safodd arholiadau CBAC graddau A* i G, gyda 23.6% ohonynt yn ennill graddau A* ac A, a 71.6% yn ennill graddau A*- C.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Wasanaethau Dysgu, “Unwaith eto, rydym yn falch iawn o gyrhaeddiad ein disgyblion yn eu harholiadau TGAU. Mewn cyfnod o newidiadau sylweddol ac arwyddocaol mae ein diolch di-ffuant i rieni, gofalwyr, llywodraethwyr a staff sydd wedi annog a chefnogi’r disgyblion. Dymunwn bob llwyddiant i’n pobl ifanc gyflawni o’u gorau yn eu amryw lwybrau .”

Dyma'r tabl isod yn dangos ffigyrau ar gyfer Ceredigion a Chymru:

 

Ceredigion

Cymru

Gradd A*- A

23.6%

18.5%

Gradd A*- C

71.6%

61.6%

Gradd A*- G

98.5%

96.4%

O gymharu â’r cyfartaledd ledled Cymru, ennillwyd gan ymgeiswyr Ceredigion 5% yn fwy o raddau A*-A a 10% yn fwy o raddau A*-C.

23/08/2018