Mae e-sgol, menter newydd a chyffrous dan nawdd Llywodraeth Cymru i ddatblygu cyfleoedd e-ddysgu, wedi cael ei lansio yng Ngheredigion.

Lansiwyd y fenter gan Ysgrifennydd Cabinet Dros Addysg, Kirsty Williams, yn Ysgol Bro Pedr, Llanbedr Pont Steffan, ar 11 Hydref 2018 fel rhan o Gynllun Gweithredu Addysg Wledig newydd Llywodraeth Cymru. Un o prif fwriadau’r fenter yw cynnig mwy o gyfleoedd dysgu i ddisgyblion mewn ysgolion gwledig, llai o faint, yn enwedig yn y sector ôl-16.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet Dros Addysg, Kirsty Williams, “Mae’r wers e-sgol heddiw wedi bod yn llawer o hwyl ac wedi dangos sut gall technoleg gynnig atebion i rai o’r materion y mae ysgolion gwledig yn eu hwynebu.

“Bydd y prosiect hwn yn cysylltu disgyblion ac athrawon ar draws Ceredigion a Phowys, gan sicrhau bod ystod ehangach o ddewisiadau pwnc ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg i ddisgyblion, ac eu bod yn cael y profiad dysgu gorau hyd yn oed yn ardaloedd mwyaf gwledig Cymru.”

Rhoddwyd croeso i Kirsty Williams AC i’r lansiad gan y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, a’r Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion gyda chyfrifoldeb am y Gwasanaethau Dysgu. Aethpwyd ymlaen i gael rhagflas o’r hyn mae’r cynllun yn ei gynnig yn ogystal â chlywed mwy am botensial y fenter. Bu Ysgol Bro Pedr ac Ysgol Bro Teifi yn cymryd rhan yn y wers a threialu’r dechnoleg newydd.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion gyda chyfrifoldeb am y Gwasanaethau Dysgu, “Mae’r prosiect peilot yn seiliedig ar fodel Albanaidd lle gwelir tebygrwydd rhwng Ynysoedd Heledd a Chymru wledig. Mae e-sgol yn gynnig cynnydd mewn dewis o bynciau ar gyfer disgyblion ol-16 yng Nghymru wledig.”

Wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, bydd y cynllun yn cychwyn gyda phum disgybl Mathemateg Bellach blwyddyn 12. Y bwriad wedyn yw treialu’r system gyda Gofal Plant, Drama a Ffrangeg, gyda Cherddoriaeth blwyddyn 10 hefyd yn cael ei ddatblygu maes o law. Ysgol Bro Pedr, Ysgol Gyfun Aberaeron ac Ysgol Bro Teifi bydd yn rhan o’r cynllun a fydd yn rhan o’r cynllun yn y cyfnod dechreuol hwn.

11/10/2018