Dros y misoedd diwethaf mae Cered: Menter Iaith Ceredigion wedi bod yn brysur yn teithio ar draws Ceredigion yn datblygu sgiliau cerddorol a chael llawer o hwyl trwy gyfrwng y Gymraeg gyda cherddorfa ukulele newydd sbon i oedolion a gweithdai ukulele i blant ac oedolion.

Ers mis Hydref mae aelodau’r Gerddorfa Iwcs a Hwyl wedi bod yn cwrdd yn wythnosol yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth i ddysgu chwarae’r ukulele dan arweiniad un o swyddogion Cered, Steffan Rees.

Cynhaliwyd gigs cyntaf y gerddorfa ar ddechrau mis Rhagfyr yng Nghanolfan y Celfyddydau a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Perfformiwyd detholiad o garolau a chaneuon Nadolig mewn ffordd hwyliog, thafod yn y boch a chafwyd ymateb calonogol iawn sydd wedi arwain at sawl cynnig i chwarae yn ystod y gwanwyn.

Dywedodd Steffan Rees, Swyddog Datblygu Cymunedol Cered, “Estynnir croeso cynnes i aelodau newydd i ymuno a’r gerddorfa. Nid oes angen profiad blaenorol o chwarae’r ukulele a bydd offerynnau ar gael i’w benthyg er mwyn cael blas ar y chwarae cyn mynd ati i brynu ukulele eich hun. Cymraeg fydd prif iaith y gerddorfa ond mae croeso cynnes i ddysgwyr a’r rhai hynny sydd yn dymuno cael eu trochi mewn awyrgylch Gymraeg.”

Bydd ymarferion wythnosol Cerddorfa Iwcs a Hwyl yn ailgychwyn ar nos Lun, 7 Ionawr rhwng 6:00 a 7:30yh yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth. Os hoffech gofrestru ar gyfer ail dymor y Gerddorfa cysylltwch â Swyddfa Docynnau Canolfan y Celfyddydau ar 01970 632 232.

Yn ogystal â chynnal Cerddorfa Iwcs a Hwyl mae Cered wedi bod yn teithio o gwmpas Ceredigion yn cynnal Gweithdai Iwcs a Hwyl er mwyn rhoi blas ar chwarae’r ukulele tra’n dysgu mwy am gerddoriaeth Gymraeg.

Dros y ddeufis diwethaf mae Steffan wedi ymweld ag Ysgol Gynradd Llan-non ac Adran yr Urdd Bro Sion Cwilt gyda gweithdai carolau ac wedi cynnal gweithdy i greu cân ar gyfer Sioe Nadolig gyda disgyblion Ysgol Gynradd Aberporth. Cynhaliwyd y sesiwn Iwcs a Hwyl: Bys a Bawd cyntaf yng Nghylch Ti a Fi Rhydypennau lle cafodd rhieni gyfle i ddysgu sut i chwarae caneuon oddi ar ap 'Bys a Bawd' Cered cyn gorffen gyda sesiwn canu a dawnsio gyda’r plant a’r rhieni i gyd.

Os hoffech chi drefnu gweithdy Iwcs a Hwyl neu sesiwn Iwcs a Hwyl: Bys a Bawd yn eich ardal chi cysylltwch gyda Cered ar 01545 572 350 neu cered@ceredigion.gov.uk.

 

07/01/2019