Mae barn trigolion ac ymwelwyr Ceredigion yn cael eu gofyn ar y parthau diogel.

Mae Cyngor Sir Ceredigion am gael adborth ar barthau diogel canol trefi Aberystwyth, Aberaeron, Cei Newydd ac Aberteifi. Hoffwn i chi ddweud wrthym beth wnaeth weithio’n dda, beth na wnaeth weithio a’r hyn y byddai angen ei ddatblygu i fframio cynigion ar gyfer gwelliannau’r dyfodol o fewn y trefi.

Crëwyd y parthau diogel presennol o dan bwerau argyfwng gan fod angen sicrhau diogelwch cyhoeddus rhag haint y coronfeirws wrth i ganol trefi ailagor.

Cyflwynwyd ystod o fesurau gan y Cyngor i gynorthwyo pobl i gynnal pellter cymdeithasol. Roedd hyn yn cynnwys lleihau mynediad i gerbydau rhwng 11.00am a 6.00pm er mwyn gwneud mwy o le i gerddwyr ymweld yn ddiogel â chanol trefi.

Mae barn busnesau, trigolion ac ymwelwyr â chanol y trefi yn bwysig i ni. Bydd hyn o gymorth i ni adnabod pwynt dysgu allwedol, casglu’r barn am yr hyn y byddai pobl yn ei ddymuno a helpu i lywio a llunio dyfodol ein canol trefi.

Rhannwch eich barn arlein neu ffoniwch 01545 570881. Mae’r arolwg hwn yn agor ar 26 Hydref hyd 21 Rhagfyr 2020.

23/10/2020