Bydd Cyngor Sir Ceredigion yn casglu pum Baner Las yn seremoni Gwobrau Arfordirol Cymru 2019 ar ddydd Mercher 15 Mai 2019.

Mae pum traeth ledled Ceredigion wedi eu dyfarnu’n deilwng o wobr ryngwladol Y Faner Las am safon eu dŵr ymdrochi, diogelwch a glendid ynghyd â’r gwasanaethau a’r adnoddau ar y traeth. Er mwyn ennill Baner Las mae angen bod y dŵr ymdrochi yn cyrraedd y safon Ragorol a hefyd yn cyrraedd 32 o ofynion eraill ar y tir.

Cafodd tri thraeth eu gwobrwyo gyda’r Wobr Arfordir Las. Ar gyfer y Wobr, mae traethau angen cyrraedd y safon ansawdd dŵr uchaf ac maent yn cael eu barnu yn ôl darpariaeth cyfleusterau ar gyfer defnyddwyr y traeth ynghyd â dangos darpariaeth rheoli a diogelwch da.

Hefyd, cafodd 13 traeth derbyn y Wobr Glan Môr - i’r traethau hynny sy’n cyrraedd y safon traethau cenedlaethol ar draws y DU. Mae’r wobr hon yn sicrhau ymwelwyr eu bod yn mynd i ddod o hyd i draeth glân, deniadol ac sy’n cael eu rheoli’n dda.

Dywedodd Arwyn Davies, Rheolwr Corfforaethol ar gyfer Twf a Menter “Mae twristiaeth yn cyfrannu’n sylweddol at economi Ceredigion gan ddod â dros £310 miliwn i mewn i’r sir yn flynyddol. Mae arfordir Ceredigion, ein llwybr arfordir a’n traethau bendigedig ymysg ein rhinweddau mwyaf o ran denu ymwelwyr i’r sir.

Mae’r gwobrau arfordirol, boed yn Faner Las, Arfordir Glas neu Glan Môr, yn arwydd o safon ein traethau ac mae Cyngor Sir Ceredigion yn ymroi i weithio gyda’n partneriaid a chymunedau arfordirol i sicrhau bod y safon uchel angenrheidiol ar gyfer derbyn gwobrau yn cael eu cyrraedd.”

Gwobrwywyd y traethau canlynol â gwobrwyon arfordirol 2019:

Y Faner Las

Borth, Gogledd Aberystwyth, Harbwr Y Cei Newydd, Llangrannog a Thresaith

Gwobr Yr Arfordir Glas

Llanrhystud, Mwnt a Cilborth

Gwobr Glan Môr

Borth, Clarach, Gogledd a De Aberystwyth, Llanrhystud, Traethau’r Harbwr a’r Dolau Y Cei Newydd, Llangrannog, Cilborth, Tresaith, Aberporth, Penbryn a Mwnt

Mae gwobrau arfordirol Cymru yn cael eu gweinyddu gan Cadwch Gymru’n Daclus.

 

15/05/2019