Mae Gwirfoddolwyr Ifanc Ceredigion yn rhaglen sy’n cael ei gydlynu gan Wasanaeth Ieuenctid Ceredigion, ac yn cynnig cymorth a chyfleoedd i bobl ifanc sy’n dymuno gwirfoddoli ac ennill profiad mewn sefydliadau Gwaith Ieuenctid. Cafodd dau wirfoddolwr ifanc gydnabyddiaeth gan wirfoddolwyr y mileniwm.

Yn ddiweddar, fe wnaeth Thomas Evans ac Ashlie Day gyflawni eu 50 a 100 awr o wirfoddoli. Mae’r ddau yn aelodau gweithgar o Glwb Ieuenctid Aberaeron, ac wedi penderfynu eu bod am ddatblygu drwy fod yn wirfoddolwyr ifanc i gefnogi gyda chynllunio, cyflwyno a gwerthuso prosiectau a gweithdai amrywiol yn y Clwb.

Dywedodd Ashlie Day, Gwirfoddolwr Ifanc yng Nghlwb Ieuenctid Aberaeron, “Rwy’n dwli ar wirfoddoli gyda Clwb Ieuenctid Aberaeron. Mae’r profiad yn cynnig ymdeimlad o falchder a chyflawniad i mi. Dechreuais fynychu’r clwb fel person ifanc a tua blwyddyn yn ôl, penderfynodd Tom a fi gymryd ymlaen ychydig o gyfrifoldebau ychwanegol a dod yn wirfoddolwyr ifanc. Rwy’n mwynhau cynllunio a chynnig gweithgareddau fy hun i aelodau ifanc y clwb, gan gynnwys coginio a celf a chrefft. Mae gwirfoddoli yn fy nghlwb ieuenctid lleol wedi cynnig cyfleoedd i mi ennill profiad, dysgu sgiliau newydd a datblygu hyder.”

Mae rhaglen Gwirfoddolwyr Ifanc Ceredigion yn galluogi pobl ifanc rhwng 16-25 oed i gyfranogi mewn arwain, cynllunio a chefnogi sesiynau amrywiol, gweithdai a chynnal a chadw’r Clwb yn gyffredinol. Hyd yma, mae 11 person ifanc wedi derbyn gwobr 50 awr, mae 6 wedi derbyn gwobr 100 awr ac mae 2 wedi derbyn gwobr 200 awr gyda Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion.

Dywedodd Gethin Jones, Prif Swyddog Ieuenctid Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion, “Mae’n wych gweld pobl ifanc yn awyddus i arwain ac i ymgymryd mewn gwahanol ddarpariaethau ar draws y Sir. Mae Thomas ac Ashlie yn aelodau gwerthfawr yn y Clwb ac rydym yn ffodus iawn eu bod yn barod i roi ychydig o’u hamser i gefnogi aelodau ifanc y Clwb. Dros y blynyddoedd, mae Thomas ac Ashlie wedi ymrwymo i bob tasg ac wedi dangos blaengaredd a sgiliau arweiniol. Rydym yn edrych ymlaen i’w cefnogi i gyrraedd eu cam nesaf o gwrdd eu targed o 200 o oriau!"

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Wasanaethau Dysgu, “Mae gwirfoddoli yn rhoi cymaint i’r plant, y clybiau a’r gymuned ac rydym yn gwerthfawrogi’r amser a’r ymroddiad y mae pobl fel Thomas ac Ashlie yn ei roi i helpu eraill. Wrth gwrs, mae’n rhoi profiad amhrisiadwy i’r rheiny sy’n gwirfoddoli, trwy ddysgu a datblygu amryw o sgiliau gwerthfawr mewn sefyllfa anffurfiol, llawn hwyl a sbri.”

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn Wasanaeth dynodedig i bobl ifanc rhwng 11-25 oed yng Ngheredigion. Mae’n wasanaeth sy’n ymrwymo i gefnogi datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgiadol pobl ifanc drwy gymorth arbenigol a darpariaeth mynediad agored. Mae’r ddarpariaeth yn cynnwys Gwaith Ieuenctid mewn Ysgolion, Gwaith Ieuenctid Allgymorth a Chlybiau Ieuenctid.

Am fwy o wybodaeth neu i ddod o hyd i’r cyfleoedd sydd yn agored i chi, ewch draw i’w tudalen Facebook neu Twitter ar @GICeredigionYS neu cysylltwch â’r tîm ar youth@ceredigion.gov.uk.

Llun: Thomas Evans ac Ashlie Day gyda’u Tystysgrifau Gwobr Gwirfoddolwyr y Mileniwm

14/02/2018