Gyda’r eira ac iâ yn dadlaith ledled Ceredigion, mae gwasanaethu y Cyngor yn dychwelyd i’r arfer, ond mae’r cyflwr tywydd yn parhau i amharu ar rai gwasanaethau.

Yn ddiweddar, mae gweithwyr Cyngor wedi taenu 1,560 tunell o raen ar y ffyrdd ac wedi gweithio saith shifft 12 awr yn ddi-dor. Mae cerbydau’r Cyngor yn ymateb i’r tywydd gaeafol wedi teithio tua 10,100 o filltiroedd. Mae’r B4343 bellach wedi ail-agor.

Cafodd pob tîm casglu gwastraff eu hanfon allan heddiw (5 Mawrth), ond gall problemau mynediad effeithio ar y gallu i ddarparu gwasanaeth lawn. Mae gwybodaeth ar unrhyw amhariad i gasgliadau gwasanaeth gwastraff ar gael ar: http://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/biniau-ac-ailgylchu/dyddiadau-casgliadau-ailgylchu-a-biniau/aflonyddwch-gwastraff/ neu trwy ffonio 01545 572 572. Mae’r Canolfannau Gwastraff Tai wedi ail-agor. Mae’n debygol y bydd yr holl wasanaethau gwastraff yn gweithredu fel yr arfer erbyn hanner gyntaf yr wythnos.

Dywedodd y Cynghorydd Ray Quant MBE, yr aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Technegol, “Mae staff y Cyngor wedi bod allan ym mhob tywydd trwy gydol pob awr o’r dydd a nos i gadw trigolion Ceredigion yn ddiogel. Mae’r gweithio tîm rhagorol a’r ymroddiad sydd wedi ei ddangos yn ystod y tywydd garw i’w ganmol yn fawr a dw i’n siŵr bod pawb yn gwerthfawrogi eu gwaith. Mae’n bwysig i gadw mewn meddwl hefyd bod y gwaith cynllunio a wnaed cyn i’r tywydd fwrw Ceredigion wedi galluogi staff i flaenoriaethu a defnyddio adnoddau yn effeithiol ar gyfer yr effaith fwyaf.”

Mae Ysgol Bro Teifi yn parhau i fod ar gau heddiw oherwydd amhariad ar gyflenwad dŵr. Mae disgyblion a staff Campws Rhos-y-wlad, Ysgol Rhoshelyg yn trosglwyddo i Gampws Llangeitho am rai diwrnodau o ganlyniad i niwed i’r pibellau sydd wedi golygu bod dŵr wedi gollwng. Anfonwyd disgyblion Ysgol Dihewyd a Chanolfan Aeron adref oherwydd amhariad cyflenwad dŵr. Mae pob ysgol arall yng Ngheredigion wedi ail-agor ar ôl bod ar gau ar ddydd Iau a dydd Gwener (01 a 02 Mawrth 2018) oherwydd tywydd gaeafol.

05/03/2018