Bu Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn dathlu Wythnos Gwaith Ieuenctid rhwng 23 a 30 Mehefin, sef wythnos wedi’i chlustnodi ar gyfer dathlu Gwaith Ieuenctid ar draws Cymru gyfan.

Roedd gan y Gwasanaeth Ieuenctid arddangosfa yng Nghanolfan Rheidol ac yn y Senedd ym Mae Caerdydd i arddangos gwaith y bobl ifanc o Geredigion ynghyd â chynghorau eraill ar draws Cymru.

Dathliadau arall y gwnaeth y Gwasanaeth Ieuenctid eu cynnal yn ystod yr wythnos i ddathlu oedd: digwyddiadau ar draws y clybiau ieuenctid, rhannu blogiau a fideos ar dudalennau cymdeithasol y gwasanaeth yn ddyddiol, tynnu dros 100 o hunluniau #WythnosGwaithIeuenctid gyda phobl ifanc a chydweithwyr ar draws y sir, cynnal noson agored yng Nghanolfan Ieuenctid Aberteifi a chreu darn jig-so mawr i gynrychioli’r hyn y mae Gwaith Ieuenctid yn golygu i bobl ifanc yng Ngheredigion.

Fe wnaeth y Gwasanaeth hefyd lansio eu tudalen Instagram newydd a’u ffilm hyrwyddo sy’n tynnu sylw at waith y Gwasanaeth.

Dywedodd Lowri Evans, Dirprwy Brif Swyddog Ieuenctid Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion: “Mae Wythnos Gwaith Ieuenctid yn rhoi cyfleoedd i Wasanaethau Ieuenctid ar draws Cymru ddathlu Gwaith Ieuenctid. Yma yng Ngheredigion, fe wnaethom ddarparu amrywiaeth eang o gyfleoedd i ddathlu Wythnos Gwaith Ieuenctid eleni sydd wedi codi proffil o’r gwaith ieuenctid. Mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn cefnogi pobl ifanc rhwng 11 a 25 oed mewn amryw o sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurfiol, trwy ddarpariaeth sydd wedi eu targedu a darpariaeth agored. Mae Gwaith Ieuenctid yn galluogi pobl ifanc i ddatblygu yn holistaidd, trwy weithio gyda nhw i hwyluso eu datblygiad yn addysgol, personol a chymdeithasol. Mae hyn yn eu galluogi i ddatblygu eu llais, eu dylanwad a’u lle yn y gymdeithas ac yn eu cynorthwyo i gyrraedd eu llawn botensial.”

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb dros y Gwasanaethau Dysgu, “Roedd hi’n braf gweld cymaint o ddigwyddiadau a gweithgareddau wedi’u trefnu gan Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion i ddathlu Wythnos Gwaith Ieuenctid yng Ngheredigion. Mae Gwaith Ieuenctid yn cynnig cymaint o gyfleoedd i bobl ifanc sy’n eu cefnogi nhw tra’u bod yn datblygu i fod yn oedolion, ac yn aml yn llinell gymorth i rai o’n hieuenctid ni. Felly mae hi’n hynod o bwysig ein bod ni’n cydnabod gwerth, pwysigrwydd ac yn dathlu gwaith y Gwasanaeth Ieuenctid a Gwaith Ieuenctid yn genedlaethol.”

Am fwy o wybodaeth, neu i ddysgu mwy am gyfleoedd sydd ar gael i chi, ewch draw i’r tudalennau Facebook, Twitter neu Instagram ar @GICeredigionYS, wefan www.giceredigionys.co.uk/hafan neu cysylltwch â’r Tîm ar youth@ceredigion.gov.uk.

 

03/07/2018