Mae Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor ar waith i helpu pobl sydd ar incwm isel. Mae'r cyngor yn gweinyddu'r cynllun ar ran Llywodraeth Cymru i bobl sy'n atebol i dalu'r dreth gyngor ac sy'n byw yng Ngheredigion. Gyda'r penderfyniad diweddar i godi treth cyngor gan 7%, mae preswylwyr ar incwm isel yn cael eu hannog i weld a oes ganddynt hawl i gael rhywfaint o gymorth tuag at dalu eu treth y cyngor.

Gall pobl fod yn gymwys i gael y gostyngiad os ydynt ar incwm isel, yn gweithio neu'n ddi-waith, yn methu gweithio oherwydd salwch, wedi ymddeol neu'n gofalu am rywun. Mae swm y gostyngiad yn dibynnu ar amgylchiadau'r person a faint o dreth gyngor y mae angen iddynt ei thalu.

Y Cynghorydd Gareth Lloyd yw'r aelod Cabinet ar gyfer Gwasanaethau Ariannol. Dywedodd, “Gwnaethom y penderfyniad anodd i godi'r dreth gyngor 7% er mwyn lleihau faint o doriadau y mae'n rhaid i ni eu gwneud i wasanaethau'r cyngor. Y gwir amdani yw bod y cyngor yn cael llai o arian gan Lywodraeth Cymru ar adeg pan fo costau a galw am wasanaethau yn cynyddu.”

“Rydym am annog unrhyw un sydd ar incwm isel i ystyried a ydynt yn gymwys i gael gostyngiad yn y dreth y cyngor. Gall cynnydd mewn treth ychwanegu pwysau at gyllidebau pobl, ac er bod y cynnydd hwn yn hanfodol i gadw gwasanaethau o safon yng Ngheredigion, rydym eisiau gwneud yn siŵr bod unrhyw un sy'n gymwys i gael cymorth yn ei gael.”

I gael rhagor o wybodaeth am gymhwysedd a sut i hawlio gostyngiad yn y dreth gyngor, e-bostiwch revenues@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch 01970 633 252.

22/02/2019