Mae data, wedi’i diweddaru gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, yn dangos bod y nifer o bobl ifanc yng Ngheredigion wedi’u canfod yn euog o droseddau, wedi gostwng gan bron 70% mewn 12 mlynedd.

Yn 2005, roedd bobl ifanc yng Ngheredigion naill ai wedi cyfaddef neu wedi eu profi o wneud 284 o droseddau. Erbyn 2017, roedd y swm yma lawr i 90. Y prif reswm am y gostyngiad mewn trosedd ieuenctid oedd y gostyngiad yn y nifer o bobl ifanc yn troseddu am y tro cyntaf; 118 oedd hyn yn 2005, a 36 yn 2017.

Mae’r gostyngiad mewn trosedd ieuenctid yn adlewyrchu’r patrymau ar draws Lloegr a Chymru. Mae cyfraddau aildroseddu yng Ngheredigion wedi aros yn gyson ers 2005. Mae tua 30% o bobl ifanc sydd wedi troseddu yn mynd ymlaen i aildroseddu o fewn 12 mis. Mae’r ffigwr yma yn cynnwys yr holl bobl ifanc sy’n mynd ymlaen i aildroseddu, yn cynnwys y rheini sy’n ddarostyngedig i rybuddion, yn hytrach na chosbau troseddau ffurfiol.

Mae Gwasanaeth Ataliadau a Chyfiawnder Ieuenctid Ceredigion yn dîm aml-asiantaeth statudol sydd â rôl benodol mewn lleihau troseddau gan bobl ifanc yng Ngheredigion. Mae’r partneriaid statudol yn cynnwys Gwasanaethau Cymdeithasol, Addysg, Heddlu, Gwasanaeth Prawf a’r Gwasanaeth Iechyd.

Dywedodd y Cynghorydd Catherine Hughes, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Wasanaethau Plant, gan gynnwys Atal, “Mae’n newyddion cadarnhaol bod y data yn dangos bod ymyrraeth dargedol i bobl ifanc gan y Gwasanaeth wedi cyfrannu’n uniongyrchol i’r gostyngiad mewn troseddu. Mae ymyrraeth sy’n targedu pobl ifanc sydd ar risg o droseddu yn gallu lleihau’r risg ohonynt yn mynd ymlaen i droseddu. Mae gwaith y timoedd dan sylw ar draws sefydliadau cyhoeddus, preifat a’r sector gwirfoddol yn ganmoladwy ac yn darparu rhaglenni ataliol a gweithgareddau strwythuredig i ddargyfeirio pobl ifanc o droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.”

Gall ymyrraeth sy’n targedu pobl ifanc sydd ar risg o droseddu leihau’r risg ohonynt yn mynd ymlaen i droseddu. Gall gostyngiad o 50% gael ei weld yn y 24 mis sy’n dilyn ymyrraeth, o gymharu â grwpiau rheoli cyfatebol. Mae ymchwil gan Dimoedd Troseddwyr Ifanc Dyfed-Powys a swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu, hefyd wedi dangos bod trosedd ieuenctid yn tueddu i fod yn llai mewn rhanbarthau ble mae Timoedd Troseddwyr Ifanc yn neilltuo mwy o adnoddau ar gyfer gwaith atal.

Am fwy o wybodaeth ar Gwasanaeth Ataliadau a Chyfiawnder Ieuenctid Ceredigion, ewch i dudalen ‘Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid’ ar wefan y Cyngor, www.ceredigion.gov.uk.

 

21/09/2018