Mae Cyngor Sir Ceredigion a Heddlu Dyfed-Powys yn gofyn i ffermwyr, tirfeddianwyr lleol a chynghorau cymuned fod yn ymwybodol dros y penwythnos Gŵyl Banc o arwyddion rhybudd am unrhyw ddigwyddiadau anghyfreithlon megis rêfs sy'n cael eu cynllunio ar eu tir.

Er nad oes tystiolaeth benodol bod digwyddiad wedi'i gynllunio ar gyfer y sir, mae rhwydweithio cymdeithasol wedi'i gwneud yn haws i drefnwyr ledaenu'r neges am ddigwyddiadau a gall y niferoedd sy'n mynd i rêf dyfu'n gyflym.

Caiff ffermwyr, tirfeddianwyr a chymunedau lleol eu hannog i roi gwybod i'r heddlu am unrhyw weithgarwch amheus ar unwaith, yn enwedig os gwelir niferoedd anarferol o gerbydau – yn enwedig faniau gwersylla, faniau neu dryciau – yn yr ardal.

Efallai y bydd tresmaswyr anghyfreithlon yn ymweld â safleoedd cyn rêf, neu efallai y bydd pobl yn holi tirfeddianwyr am argaeledd tir, yn y gobaith o'i logi ar gyfer gweithgareddau derbyniol megis gymkhanas neu wersylloedd sgowtiaid.

Gall rêfs achosi pryder i'r cymunedau y cânt eu cynnal ynddynt ac, os nad ymdrinnir â nhw'n gyflym, gall fod yn anodd iawn eu stopio oherwydd y nifer o bobl dan sylw. Mae dod â digwyddiadau o'r fath i ben hefyd yn achosi pryder diogelwch.

Dylai unrhyw un sydd â phryderon ffonio Heddlu Dyfed Powys ar 101.

23/08/2018