Cynhelir Fforymau Landlordiaid yn Aberystwyth ac Aberaeron i drafod Adolygiad o’r Cynllun Trwyddedu Ychwanegol ym mis Hydref 2018 i gael barn preswylwyr lleol, landlordiaid a thenantiaid.

Bydd y Fforymau yn gyfle i landlordiaid ac i rai sy’n rheoli tai rhent i siarad yn uniongyrchol â Swyddogion Cyngor Sir Ceredigion ynglŷn ag adolygiad o’r Cynllun Trwyddedu Ychwanegol.

Cynllun trwyddedu dewisol yw’r Cynllun Trwyddedu Ychwanegol sy’n cael ei weithredu gan y Cyngor. Mae’n gallu cael ei ddefnyddio ar gyfer mathau penodol o dai amlfeddiannaeth neu fflatiau sydd wedi eu trawsnewid at safon isel. Mae cynllun mandadol yn bodoli ar gyfer tai amlfeddiannaeth mwy o faint.

Dywedodd yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol ynghyd â Thai, y Cynghorydd Dafydd Edwards, “Mae Swyddogion eisoes wedi teithio ledled y sir i gael barn trigolion Ceredigion ar yr adolygiad. Mae’r fforymau yn gam arall i sicrhau bod yr adolygiad yn dod i gasgliad sy’n gwasanaethu pobl y sir.”

Bydd Fforwm Aberystwyth yn cael ei gynnal yn Neuadd Penbryn, Prifysgol Aberystwyth ar ddydd Mawrth 16 Hydref am 5:30yp-8:30yh. Bydd Fforwm Aberaeron yn cael ei gynnal yn Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron ar ddydd Iau 18 Hydref am 5:30yp-8:30yh.

Archebwch eich lle ymlaen llaw trwy anfon neges at tai@ceredigion.gov.uk neu ffonio 01545 572185 gan roi eich enw, cyfeiriad e-bost a nifer y cynrychiolwyr a fydd yn mynychu’r digwyddiad. Am fwy o wybodaeth, ewch i:
https://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/tai/tai-amlfeddiannaeth/adolygiad-o-trwyddedu-ychwanegol-2018/.

02/10/2018