Enillodd ffilm fer a grëwyd gan ddisgyblion drama Blwyddyn 12 Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig yr ail wobr mewn cystadleuaeth genedlaethol. Mae’r ffilm fer, sy’n ffocysu ar godi ymwybyddiaeth ar ddiogelwch ar-lein rhwng pobl ifanc, ac yn amlygu ac annog trafodaeth am y risgiau yn ymwneud â’r camddefnydd o Snapchat yn benodol. Hwyluswyd y prosiect gan Wasanaeth Ieuenctid Ceredigion, ar y cyd â Phrifysgol Aberystwyth ac Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig.

Cafodd y ffilm ei ddanfon mewn i gystadleuaeth Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2018, sy’n cael ei gynnal gan Lywodraeth Cymru. Thema’r gystadleuaeth eleni oedd ‘Creu, cysylltu a rhannu parch’. Gofynnodd y gystadleuaeth i blant a phobl ifanc Cymru i fynegi eu teimladau am sut mae bod ar-lein yn eu gwneud i deimlo drwy eiriau, celf, ffilm neu gerddoriaeth.

Yn dilyn proses beirniadu drylwyr, mi wnaeth y ffilm gyrraedd rownd fuddugol y gystadleuaeth. Derbyniodd y criw wahoddiad i fynychu digwyddiad Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2018, y cynhalir gan Lywodraeth Cymru, South West Grid for Learning a UK Safer Internet Centre yn adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd ar Ddydd Mawrth 6 Chwefror 2018. Cafwyd llwyddiant gyda’r ffilm yn derbyn yr ail wobr yn y categori Uwchradd, wrth iddo gael ei ddewis allan o 300 o geisiadau ar draws Gymru. Cyflwynodd Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, y wobr i’r disgyblion, a bydd yn cael eu harddangos yn Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Wasanaethau Dysgu, “Ar ran y Cyngor, cymeradwyaf y gwaith caled a wnaed gan ddisgyblion Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig a oedd yn rhan o'r ffilm hon o'r dechrau, gan drafod syniadau, ysgrifennu'r plot, actio, ffilmio a golygu'r ffilm derfynol. Cafodd y ffilm ei ddewis fel un o’r ceisiadau buddugol ar gyfer y gystadleuaeth, allan o 300 o geisiadau eraill ar draws Gymru. Rwy’n hynod o falch clywed bod y ffilm wedi dod yn ail yng nghystadleuaeth Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel. Mae hyn yn gydnabyddiaeth wych sy’n adlewyrchu cyflawnant y bobl ifanc mewn creu adnodd llwyddiannus, a fydd o gymorth i eraill ar draws y sir. Diolch i Wasanaeth Ieuenctid Ceredigion, Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig a Phrifysgol Aberystwyth am gefnogi’r disgyblion i greu’r ffilm hon”.

Dywedodd Siôn Hurford, disgybl Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig a fu ynghlwm â chreu a chynhyrchu’r ffilm fer, “Mae’n bwysig iawn ein bod yn addysgu ac yn codi ymwybyddiaeth o’r peryglon sy’n perthyn i gamddefnyddio gwahanol lwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Ar gyfer y ffilm hon, penderfynom ganolbwyntio ar ddiogelwch snapchat, gan fod yr ap yn hynod o boblogaidd ymysgu pobl ifanc. Mae’r ffilm yn portreadu gwahanol beryglon a’r effeithiau negyddol gall ddilyn o gamddefnyddio cyfryngau cymdeithasol, megis seibr-fwlio, pwysau gan gyfoedion a rhannu lluniau anaddas. Rydym yn gobeithio bydd y ffilm yma yn tynnu sylw at y peryglon yma ac yn annog trafodaethau agored ac onest o amgylch diogelwch ar-lein mewn ysgolion a cholegau ar draws Geredigion”.

Cynlluniwyd y ffilm i gael ei ddefnyddio fel adnodd addysgol o fewn ysgolion uwchradd, Hyfforddiant Ceredigion Training a Choleg Ceredigion. Mae DVD o’r ffilm ar gael am ddim i’r sefydliadau yma, ar gael trwy gysylltu â Lowri Evans, Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion ar 01545 572 352 neu lowri.evans@ceredigion.gov.uk

I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad neu am gyngor neu adnoddau i helpu plant a phobl ifanc gadw’n ddiogel ar-lein, ewch i’r wefan https://www.saferinternet.org.uk/.

 

07/02/2018