Atgoffir dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd, Ardal Economaidd Ewropeaidd neu o’r Swistir sy’n byw yng Ngheredigion fod cymorth ar gael i newid o statws cyn-sefydlog i sefydlog yn y Deyrnas Unedig.

Mae pobl sydd â statws cyn-sefydlog fel arfer wedi byw yn y DU am lai na phum mlynedd ar drefniant parhaus. Gallant wneud cais i newid i statws sefydlog cyn gynted ag y byddant yn gymwys. Mae hyn fel arfer ar ôl iddynt fyw yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw am bum mlynedd yn olynol.

I newid, rhaid wneud cais i’r EUSS unwaith eto cyn i’r statws cyn-sefydlog ddod i ben. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Llywodraeth y Deyrnas Unedig

Ceredigion a’r EUSS

Yn rhan gynllun Statws Preswylwyr Sefydlog i Ddinasyddion yr UE (EUSS), derbyniwyd 2,550 o geisiadau yng Ngheredigion (ffigurau mis Medi 2021). O’r rheiny, cafodd 990 o bobl statws sefydlog, 1,480 statws cyn-sefydlog ac 80 arall.

Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Mewn ymateb i gynllun yr EUSS, aeth Cyngor Sir Ceredigion ati i sefydlu grŵp llywio penodedig i edrych ar sut y byddai’r cynllun sefydlog yn effeithio ar agweddau cymdeithasol ac economaidd yn y sir, ynghyd â hyrwyddo’r cynllun mor eang â phosibl i breswylwyr Ceredigion. Rydym yn falch fod cynifer o’n trigolion wedi cael statws sefydlog neu gyn-sefydlog trwy’r cynllun, a hoffem atgoffa pobl i ddiweddaru eu statws unwaith y maent yn gymwys i wneud hynny er mwyn diogelu eu hawliau i fyw, gweithio a manteisio ar wasanaethau yn y Deyrnas Unedig.”

Ceisiadau hwyr

Er fod dyddiad cau y cynllun EUSS wedi mynd heibio ym mis Mehefin 2021, gall pobl wneud cais hwyr o hyd os oes ganddynt reswm rhesymol dros golli’r dyddiad cau. I wneud cais, ewch i wefan Llywodraeth y Deyrnas Unedig

Rhaid gwneud cais ar gyfer pob plentyn cymwys mewn teulu. Dylai rhieni wirio a oes angen iddynt wneud cais ar ran eu plant, hyd yn oed os ydynt eisoes wedi gwneud cais a chael statws eu hunain.

I gael help a chyngor a chael eich cyfeirio at sefydliadau a allai helpu gyda cheisiadau, ewch i wefan EUSS Cymru.

06/01/2022