Darparwyd diwrnod hwyl cynhwysol i dros 50 o bobl ifanc ag anableddau yn ystod hanner tymor mis Hydref.

Daeth Ceredigion Actif, Gwersyll yr Urdd Llangrannog a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ynghŷd i ddarparu diwrnod hwyl cynhwysfawr yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog.

Dywedodd Gemma Cutter, Swyddog Chwaraeon Anabledd Cymru, “Buom yn gweithio'n agos gyda staff yr Urdd yn Llangrannog i ddarparu cyfleoedd yn benodol ar gyfer pobl anabl yn yr ardal. Roedd yr ymateb yn wych ac fe gafodd pawb ddiwrnod arbennig!”

Cymerodd y bobl ifanc ran mewn diwrnod llawn o weithgareddau a oedd yn cynnwys sgïo, go cartio, marchogaeth, dringo ac aml-sgiliau.

Dywedodd Bethan Roberts, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwersyll yr Urdd Llangrannog, “Rydym wrth ein bodd bod cymaint o blant a phobl ifanc o bob rhan o Geredigion wedi mwynhau ein Diwrnod Hwyl Cynhwysol. Roedd hi'n wych gweld cymaint o wynebau yn gwenu wrth fwynhau ein holl weithgareddau gydag addasiadau ble oedd angen. Gobeithiwn fod y diwrnod wedi dangos yr hyn y gallwn ei gynnig i deuluoedd yn yr ardal. Rydym yn gobeithio trefnu diwrnod arall cyn bo hir.”

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet dros y Gwasanaeth Dysgu a Dysgu Gydol Oes, “Mae Cyngor Sir Ceredigion yn ceisio hybu a gwella iechyd a lles y sir ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. Roedd y diwrnod hwyl cynhwysol hwn yn rhoi cyfle i bobl ifanc Ceredigion gydag anabledd ddatblygu ystod o sgiliau trwy weithgareddau a chwaraeon.”

 

14/11/2018