Mae digwyddiad caffael yn cael ei gynnal i fusnesau Ceredigion ddatblygu ar eu cyflwyniadau tendro ac i ennill contractau sector cyhoeddus.

Mae Cyngor Sir Ceredigion, ar y cyd â'i bartneriaid sector cyhoeddus sydd ar Fforwm Caffael Ceredigion, wedi trefnu digwyddiad i helpu busnesau lleol i ddeall y broses dendro, a gwella cynigion tendro.

Mae’r digwyddiad ar gyfer busnesau bach a mawr sydd â diddordeb mewn contractio gyda'r sector cyhoeddus yng Ngheredigion, a'r rheini a allai fod wedi bod o'r blaen wedi tendro am waith ac yn aflwyddiannus. Nid yw’r digwyddiad wedi'i anelu at unrhyw sector marchnad benodol.

Dywedodd George Ryley, Rheolwr Caffael a Thaliadau Corfforaethol yng Nghyngor Sir Ceredigion, “Mae'r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i fusnesau sy'n dymuno contractio gyda'r sector gyhoeddus, ac mae'n esiampl o'r Cyngor yn cyflawni ei strategaeth gaffael newydd.”

Cynhelir y digwyddiad ar ddydd Mawrth, 30 Hydref, yn Y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bydd drysau'r digwyddiad yn agor am 8yb ar gyfer rholiau cig moch a lluniaeth cyn yr agoriad swyddogol am 8:30yb gan Mr Eifion Evans, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Lloyd, Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Gwasanaethau Cyllid a Chaffael, “Os yn fusnes mawr neu fach, dyma gyfle perffaith i'r rhai sydd â diddordeb mewn ennill contractau sector cyhoeddus i ddysgu sut i ddatblygu ac ysgrifennu tendrau. Mae'n wych gweld digwyddiad o'r fath yng Ngheredigion, i sicrhau masnach ar gyfer busnesau ein sir yn y dyfodol. Byddwn yn annog pob busnes sydd a diddordeb i fynychu.”

Bydd cyflwyniadau gan siaradwyr yn y sector cyhoeddus yn dilyn, a bydd Busnes Cymru yn darparu hyfforddiant. Bydd egwyl ganol bore ar gyfer rhwydweithio a lluniaeth, a disgwylir i'r digwyddiad gau am 12:30yp. Darperir parcio am ddim i'r rhai sy'n bresennol.

Mae niferoedd ar gyfer y digwyddiad yn gyfyngedig, felly mae cofrestru yn hanfodol. Cofrestrwch yma. 

15/10/2018