Trefnodd Uned Gofalwyr Cyngor Sir Ceredigion ddigwyddiad arbennig i ofalwyr yn ystod y Wythnos Gofalwyr ar ddydd Mawrth, 11 Mehefin 2019 er mwyn roi cyfle i ofalwyr ymlacio a magu nerth.

Mae Wythnos Gofalwyr yn ymgyrch genedlaethol sy’n cael ei chynnal yn flynyddol i godi ymwybyddiaeth ynghylch gofalu, i dynnu sylw at yr heriau y mae gofalwyr yn eu hwynebu ac i gydnabod eu cyfraniad i’w teuluoedd a’u cymunedau.

Cynhaliwyd y digwyddiad i ofalwyr ym Mhlasty Rhosygilwen, encil gwledig 10 milltir i’r de o Aberteifi. Darparwyd therapïau cyflenwol fel adweitheg, aromatherapi a thylino’r corff i’r gofalwyr a oedd ar gael drwy’r dydd. Yn ogystal â’r therapïau, roedd 14 o sefydliadau yno’n darparu gwybodaeth a chyngor i’r gofalwyr.

Darparwyd cinio blasus i’r gofalwyr a chawsant gyfle i gymryd rhan mewn nifer o weithgareddau grŵp a gynhaliwyd yn ystod y dydd, gweithgareddau fel Tai Chi, sgyrsiau a gweithgareddau’n gysylltiedig â lles ac iechyd meddwl, drymio, canu Affricanaidd a chelf a chrefft. Drwy gymryd rhan yn y gwahanol weithgareddau yn y digwyddiad, roedd gofalwyr yn cael cyfle i gyfarfod a siarad â gofalwyr eraill.

Mae digwyddiadau fel hyn ond yn llwyddiannus os oes nifer o ofalwyr yn bresennol ac roedd yr Uned Gofalwyr yn eithriadol o falch o weld 52 gofalwr yn mentro drwy dywydd ofnadwy i fod yno. Roedd yr Uned Gofalwyr yn gobeithio bod y gofalwyr wedi dychwelyd adref ar ddiwedd y dydd yn teimlo’u bod wedi ymlacio ar ôl cael seibiant o’u rolau fel gofalwyr.

Dywedodd Cynghorydd Catherine Hughes, yr Aelod Eiriolwr ar gyfer gofalwyr, “Rhaid canmol yr Uned Gofalwyr am drefnu wythnos gofalwyr llwyddiannus arall. Roedd Plasty Rhosygilwen yn lleoliad ardderchog a chafodd y gofalwyr gyfle i feddwl am eu lles eu hunain. Diolch i bawb a oedd yn bresennol ac a wnaeth y diwrnod yn un arbennig i’n gofalwyr.”

Dywedodd Arwyn Morris, Swyddog Arweiniol Corfforaethol dros Gyswllt Cwsmeriaid, “Roedd hi’n braf gweld cynifer o ofalwyr yn cymryd rhan yn y gweithgareddau a’u bod yn gallu cael mynediad at rwydwaith amrywiol o sefydliadau cefnogi. Diolch i’r holl sefydliadau gwahanol am eu cefnogaeth barhaus, yr Uned Gofalwyr am drefnu digwyddiad llwyddiannus arall ac i’r gofalwyr a frwydrodd yno drwy’r glaw.”

Un o’r nifer o agweddau cadarnhaol i ddeillio o’r digwyddiad oedd bod sefydliadau ac unigolion o’r sector statudol a’r trydydd sector, mentrau cymdeithasol, busnesau, pobl hunangyflogedig a gwirfoddolwyr fel ei gilydd yn gweithio’n agos i wneud y diwrnod yn un llwyddiannus i ofalwyr.

Hoffai Uned Gofalwyr Ceredigion ddiolch i’r holl sefydliadau a busnesau a gefnogodd y diwrnod, gan gynnwys y therapyddion â’r holl weithwyr proffesiynol a roddodd o’u hamser a sgiliau i wirfoddoli yno. Ni fyddai Uned y Gofalwyr wedi gallu cynnig cynifer o weithgareddau i’r gofalwyr heb eu help nhw.

03/07/2019