Bydd datrysiad arfaethedig ar gyfer anghydfod ynghylch tir yn arwain at adnewyddu’r Strand, Ger y Cei yn Aberteifi os ellir trafod telerau yn llwyddiannus.

Cymeradwywyd y datrysiad gan Gabinet Cyngor Sir Ceredigion ar 10 Gorffennaf 2018. Mae’r Strand wedi bod mewn cyflwr gwael ers sawl blwyddyn ac wedi bod yn ddolur i’r llygad ac yn beryglus i’r cyhoedd.

Mae’r datrysiad yn edrych am ffordd ymlaen mewn sefyllfa gymhleth ynghylch anghydfod tir hanesyddol rhwng y Cyngor a Llywodraeth Cymru ac anghysondeb ynghylch gwely’r afon rhwng y Cyngor ac Ystadau’r Goron.

Mae datrysiad a ddatblygwyd gan Swyddogion Tîm Datblygu y Cyngor yn cynnig bod y Cyngor yn prynu’r safle o Lywodraeth Cymru am swm bach ac ar yr un pryd tendro prydles yr eiddo i’r sector preifat ar sail prydles 30 mlynedd. Bydd y brydles yn cynnwys amodau i wneud gwaith adnewyddu sylfaenol i wella golwg y safle o fewn dwy flynedd, ac i gyfyngu’r defnydd ohono at ddibenion hamdden a thwristiaeth.

Bydd y broses o gaffael y cei dim ond yn cael ei gwblhau os derbynnir cynnig boddhaol gan drydydd parti i gymryd y brydles, gan nodi y bydd unrhyw gynnig yn adlewyrchu’r gwaith sydd ei angen i wella golwg y safle. Bydd amrywiad ar brydles blaendraeth Ystadau’r Goron i gynnwys gwely’r afon ger y cei o fewn y brydles yn cael ei negodi – gan alluogi defnydd economaidd.

Dywedodd yr aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Economi ac Adfywio, y Cynghorydd Rhodri Evans, “Nawr bod y Cabinet wedi cymeradwyo datrysiad arfaethedig y swyddogion, dw i’n gobeithio gallwn symud ymlaen a gweithio yn rhagweithiol â phartneriaid i ddarparu nodwedd ddŵr braf a fydd hefyd yn cefnogi economi Aberteifi.

Mae’r penderfyniad i gymeradwyo’r datrysiad yn cefnogi blaenoriaethau corfforaethol y Cyngor o hybu’r economi a hyrwyddo cydnerthedd amgylcheddol a chymunedol.

10/07/2018