Mae'r cynllun arfaethedig ar gyfer Canolfan Adnoddau Integredig Cylch Caron yn Nhregaron wedi symud yn nes at gael ei wireddu, yn dilyn cwblhau cam cyn-cymhwyso y Gwahoddiad i Dendr yn llwyddiannus.

Cyhoeddwyd y gwahoddiad i gyflwyno tendr yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd (OJEU) ar 12 Chwefror 2018 gyda'r pum contractwr gyda'r sgôr uchaf yn cael eu gwahodd yn awr i gyflwyno tendr ar gyfer y cynllun iechyd, gofal cymdeithasol a gofal ychwanegol integredig sydd eu mawr angen.

Cafodd y tendr ar gyfer datrysiad dylunio ac adeiladu ei ddatblygu gyda'r nod o sicrhau'r gwerth gorau am arian a chyfleusterau iechyd, gofal cymdeithasol a gofal ychwanegol modern ar gyfer cenedlaethau heddiw a'r dyfodol.

Dywedodd y Cynghorydd Catherine Hughes, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion a Chadeirydd Bwrdd Rhanddeiliaid Cylch Caron: “Mae hwn yn gyfle gwych i'r diwydiant adeiladu gynllunio ac adeiladu darpariaeth iechyd, preswyl a gofal cymdeithasol newydd hollol integredig ar gyfer y Sir. Roedd yn dda iawn gweld cymaint o ddiddordeb mewn gweithio gyda Partneriaid y Prosiect i gyflwyno'r cynllun cyffrous hwn ac ansawdd cyfredol y cyflwyniadau cyn-cymhwyso a wnaed.”

Caiff y cynllun trawiadol ei ddatblygu mewn partneriaeth rhwng Cyngor Sir Ceredigion, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru a Llywodraeth Cymru. Bydd yn cynnwys meddygfa deuluol, fferyllfa gymunedol, clinigau i gleifion allanol a chyfleusterau gofal a nyrsio cymunedol, ynghyd â 34 o fflatiau gofal ychwanegol a chwech o unedau iechyd a gofal cymdeithasol integredig.

20/06/2018