Bydd cyfradd y dreth gyngor yng Ngheredigion am 2019-2020 yn cynyddu 7%. Cytunwyd ar y cynnydd gan gynghorwyr i leihau effaith toriadau i gyllideb y Cyngor ac i ddiogelu gwariant ar addysg. Gwnaed y penderfyniad mewn cyfarfod o'r Cyngor ar 21 Chwefror 2019.

Bydd 2% o'r cynnydd o 7% yn cael ei ddefnyddio i ddiogelu gwariant ar addysg. Mae cyllidebau ysgolion wedi bod dan bwysau difrifol ar ôl blynyddoedd o orfod gwneud arbedion. Mae costau wedi cynyddu unwaith eto yn dilyn y penderfyniad i gynyddu cyflogau a phensiynau athrawon. Bydd y cynnydd ychwanegol o 2% yn ein galluogi i gadw cyllidebau ysgolion yn wastad.

Pennir cynnydd cyfradd y dreth gyngor gan dri rhan allweddol, sef treth y Cyngor Sir, praesept cynghorau Tref a Chymuned a phraesept yr Heddlu. Mae'r cynnydd a osodwyd gan yr heddlu a chynghorau tref a chymuned yn arwain at gynnydd cyfunol o 7.56%.

Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd y Cyngor, “Doedd gennym ni ddim dewis ond i ofyn i’r Cyngor cynyddu Treth y Cyngor o 7% eleni er mwyn lleihau maint y toriadau y bydd rhaid i ni eu gwneud ar draws cyllidebau’r Cyngor. Mae angen ysgolion sydd wedi’u hariannu a’u rhedeg yn dda ar Geredigion i fod yn llwyddiannus yn y dyfodol. Rydym am fuddsoddi yn nyfodol ein plant a'n sir.”

“Y gwir amdani yw bod y Cyngor yn cael llai o arian gan Llywodraeth Cymru ar adeg pan fo costau a'r galw am wasanaethau'n codi. Nid yw’r cynnydd yng nghyflogau a phensiynau athrawon wedi eu hariannu’n llawn gan Llywodraeth Cymru hyd yma. Pe na bai'r dreth gyngor wedi cynyddu, byddai'n rhaid i ni wneud toriadau dyfnach.”

Yn 2018-2019, roedd Treth y Cyngor cyfartalog ar eiddo Band D yn £1,226.48. Mae'r cynnydd yn golygu y bydd yr un eiddo yn talu £1,312.33 yn 2019-2020. Mae cyllideb y cyngor wedi'i chwtogi £39m neu 25% yn ystod y saith mlynedd diwethaf. Ar waetha hyn, bydd angen i'r Cyngor arbed £6m yn rhagor yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod.

21/02/2019