Mewn cyfarfod o’r Cyngor Llawn ar ddydd Iau 22 Chwefror 2018, penderfynodd aelodau ar lefel Treth y Cyngor ar gyfer 2018-2019. Y cynnydd cyflawn i Dreth y Cyngor bydd 5.02%. Bydd elfen y Cyngor o’r dreth yn cynyddu 4.95%.

Gosodir cyfradd Treth y Cyngor gan dair elfen allweddol, Treth y Cyngor Sir, praesept Cynghorau Tref a Chymuned a praesept yr Heddlu. Penderfynwyd y bydd elfen y Cyngor Sir o’r dreth yn cynyddu 4.95%. Golyga cynnydd a osodir gan yr Heddlu a Chynghorau Tref a Chymuned gynnydd cyfunol o 5.02%

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Edwards, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Ariannol, “Doedd y penderfyniad i gynyddu elfen y Cyngor Sir o Dreth y Cyngor o 4.95% ddim yn benderfyniad hawdd i’w wneud. Cafodd ei wneud er mwyn lleihau’r effaith ar wasanaethau craidd o safon sydd yn hanfodol bwysig mewn cefnogi llawer o drigolion Ceredigion. Mae gwasanaethau eisoes wedi dioddef toriadau dros y blynyddoedd diweddar, a heb gynyddu Treth y Cyngor, byddai wedi bod rhaid eu torri ymhellach.”

Yn 2017-2018, roedd eiddo Band D Treth y Cyngor yn talu £1,168.63 ar gyfartaledd. Golyga’r cynnydd bydd yr eiddo cyfatebol yn talu £1,226.48 yn 2018-2019. Mae cyllideb y Cyngor wedi cael ei dorri £34m yn y pum mlynedd ddiwethaf. Bydd angen i’r Cyngor arbed £5m ychwanegol yn y flwyddyn ariannol i ddod.

Gwneir y cynnydd i Dreth y Cyngor yng nghyd-destun pwysau costau cynyddol a setliad cenedlaethol annigonol i gwrdd â’r pwysau yma, gan osod baich ychwanegol ar y Cyngor.

23/02/2018