Bydd Ffair ‘Cymraeg yn y Gweithle’ cynta’r sir yn cael ei gynnal i annog a chefnogi busnesau sydd am gynyddu eu darpariaeth ddwyieithog yn eu gwaith bob dydd.

Gydag Eisteddfod Ceredigion 2020 ar y gorwel mae Swyddogion Cymraeg yn y Gweithle Cered: Menter Iaith Ceredigion yn brysur yn cynorthwyo busnesau’r sir i elwa o ddefnyddio’r Gymraeg mewn Busnes. I’r perwyl hwn, y Gymraeg bydd ffocws digwyddiad arbennig ddechrau mis Hydref pan y cynhelir Ffair ‘Cymraeg yn y Gweithle’.

Fe fydd Huw Marshall, y dyn tu ôl Yr Awr Gymraeg, yn arwain ar sut i godi proffil busnes a sut i farchnata yn effeithiol er mwyn denu mwy o gwsmeriaid. Yn ystod y dydd, bydd cyfle i holi panel o fusnesau sydd eisoes yn gweithredu’n ddwyieithog gan ddysgu o’u profiadau a’r heriau oedd yn eu hwynebu. Aelodau’r panel fydd Emlyn Jones (Diogel Events), Kerry Ferguson (Gwe Cambrian), Eleri Davies (Maes Carafannau Blaenwaun) a Sioned Thomas (Ffenestri Kevin Thomas) gyda Keith Henson (Coleg Ceredigion) yn cadeirio.

Dywedodd y Cynghorydd Catherine Hughes, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Ddiwylliant, “Mae’n galonogol iawn gweld Ffair gwerthfawr a phwysig fel hyn yn cael ei chynnal yng Ngheredigion am y tro cyntaf gan Cered. Mae’n gyfle arbennig i fusnesau ddod ynghyd a chael clywed profiadau wrth y rheiny sy’n defnyddio’r iaith Gymraeg wrth eu gwaith bob dydd.”

Yn hwyrach yn y dydd, bydd cyfle i fusnesau ymweld â chyfres o stondinau gwybodaeth gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol, Hyfforddiant Ceredigion, Cynnal y Cardi, Busnes Cymru, Antur Teifi, Comisiynydd y Gymraeg, Coleg Ceredigion a Cymraeg Byd Busnes.

Cynhelir y digwyddiad ar ddydd Iau, 04 Hydref 2018, rhwng 10:30 a 15:30 yng Nghastell Aberteifi. Nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael, felly sicrhewch eich lle trwy gofrestru ar tocyn.cymru. Bydd cyfleusterau cyfieithu ar y pryd a lluniaeth yn cynnwys te a choffi ar gael.

Mae prosiect ‘Cymraeg yn y Gweithle’ wedi cael cefnogaeth LEADER drwy Grŵp Gweithredu Lleol Cynnal y Cardi (a weinyddir gan Gyngor Sir Ceredigion) a ariennir drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Am fwy o fanylion, cysylltwch â Pat Jones, Swyddog Datblygu’r Gymraeg mewn Busnes, Cered, Menter Iaith Ceredigion ar Pat.jones@ceredigion.gov.uk neu 01545 572350.

18/09/2018