Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi galw ar y Swyddfa Gartref i ddileu’r angen i wladolion yr UE sy’n byw yn y DU i geisio am statws sefydlog. Fe gymeradwyodd y cyngor gynnig yn unfrydol mewn cyfarfod ar 23 Ionawr 2019.

Mae’r cynnig yn dweud, “Mae Cyngor Sir Ceredigion yn galw ar y Swyddfa Gartref i ddileu’r angen i wneud cais am statws sefydlog i bawb sy'n wladolion yr UE ac sy'n byw yn y DU ar hyn o bryd a hyd at y dyddiad ymadael â’r UE.”

Cafodd y cynnig ei gynnig gan y Cynghorydd Elizabeth Evans a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Alun Williams.

23/01/2019