Mae gwasanaeth newydd wedi'i lansio i sicrhau bod pobl sy'n ddi-waith yn y tymor byr yng ngorllewin Cymru'n cael y cymorth ymarferol sydd ei angen er mwyn cael gwaith.

Caiff y gwasanaeth ei ddarparu gan dîm hynod fedrus a phrofiadol Gweithffyrdd+ sydd bellach yn gallu cefnogi pobl sydd wedi bod yn ddi-waith am ddiwrnod neu flynyddoedd. Mae hyn oherwydd buddsoddiad ychwanegol o £3m o gyllid yr UE a ddarparwyd drwy Lywodraeth Cymru. Mae'r gwasanaeth Di-waith Tymor Byr (DTB) ar gael drwy sefydliad Gweithffyrdd+ yng Ngheredigion, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gâr a Sir Benfro.

Gall pobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth DTB ddisgwyl cael cefnogaeth un i un gan fentor cyflogaeth profiadol a gofalgar. Byddant yn gweithio gyda nhw i ddatblygu eu CV, cwblhau ffurflenni ymgeisio am swydd, paratoi ar gyfer cyfweliadau a chwilio am swyddi. Mae'n bosib hefyd y byddant yn cael hyfforddiant sgiliau wedi'i ariannu'n llawn, dillad ar gyfer cyfweliadau, offer personol amddiffynnol a dillad gwaith. Gall diweithdra fod yn drawmatig ac mae'r tîm o fentoriaid yn deall hyn. Byddant yn helpu pobl i fagu hyder a pharatoi ar gyfer gwaith. Mae pob aelod o'r tîm mentoriaid yn ymfalchïo yn y ffordd y maent yn helpu pobl ac maent ar ben eu digon pan fyddant yn helpu pobl i gael swyddi.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Cymorth ac Ymyrraeth Cyngor Sir Ceredigion: “Mae cymorth ymarferol o’r math hwn yn amhrisiadwy i bobl sy’n profi diweithdra. Rydym yn falch o allu cefnogi’r fenter hon i gynorthwyo pobl sy’n wynebu diweithdra yn y tymor byr, ac mae lansio’r cymorth ychwanegol hwn yn amserol iawn o ystyried yr heriau sy’n wynebu pobl ar hyn o bryd yn sgil cyfyngiadau’r coronafeirws. Hyderwn y bydd y cynllun o fudd i lawer iawn o bobl yng Ngheredigion.”

Ariennir Gweithffyrdd+ a'r fenter DTB gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, ac mae ei staff yn swyddogion a gyflogir gan Gynghorau Sir Ceredigion, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.

I ddod o hyd i'ch swyddfa leol, ewch i wefan Gweithffyrdd+.

29/07/2020