Gyda’r gwaith glanhau ar ôl llifogydd yn dilyn Storm Callum yn mynd rhagddo, mae gwybodaeth diogelwch pwysig yn cael ei gyhoeddi i drigolion Ceredigion.

Arwyddion ffordd

Bu rhaid i nifer o ffyrdd a phontydd yng Ngheredigion gau yn dilyn llifogydd. Mae’r Cyngor nawr yn ymwybodol bod lleiafrif bach o fodurwyr wedi anwybyddu arwyddion a oedd wedi cael eu gosod i gau ffyrdd, ac wedi eu symud i un ochr.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Edwards, yr aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol, “Mae staff Cyngor wedi bod yn gweithio yn ddiflino i leihau risg i drigolion Ceredigion. Roedd hi’n siomedig iawn i ddysgu bod lleiafrif bach o fodurwyr nid yn unig wedi anwybyddu arwyddion, ond hefyd wedi eu symud o’r ffordd. Trwy anwybyddu’r arwyddion, mae unigolion wedi rhoi eu hunain mewn perygl posibl. Trwy symud yr arwyddion, maent hefyd wedi rhoi eraill mewn perygl posibl. Dw i’n annog pobl i fod yn amyneddgar ac i beidio ceisio teithio ar ffyrdd neu bontydd sydd ddim wedi cael eu hystyried i fod yn ddiogel ac wedi cael eu hail-agor.”

Iechyd Amgylcheddol

Mae Swyddogion Tai'r Cyngor o’r Tîm Lles Cymunedol yn ymweld ag eiddo sydd wedi cael eu heffeithio i ddarparu gwybodaeth a chyngor i ddeiliaid tai. Mae’ ymweliadau yma yn cynnwys adnabod deiliaid tai bregus, rhoi cyngor ar dai a materion yswiriant, penderfynu ar ba gefnogaeth bellach sydd angen tu hwnt i’r tymor byr yng nghyd â chyd-lynu cefnogaeth arall ble bod angen. Gellir eu cysylltu ar 01545 570881 and housing@ceredigion.gov.uk.

Mae gwaith glanhau wedi cychwyn. Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru gyngor i helpu gwneud hyn yn ddiogel: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/page/94751

Statws ffyrdd wedi’u cau

Mae’r B4476 Abercerdin a’r A484 o Genarth i Aberteifi wedi cael eu hail-agor. Mae un ochr o’r B4343 Cellan ar agor ond nid yw’n addas i Gerbydau Deunyddiau Trwm neu gerbydau tebyg. Mae Pont Cenarth wedi cael ei ail-agor.

Mae’r B4459 Capel Dewi yn parhau i fod ar gau wrthi oddeutu 100 tunnell o rwbel tirlithriad cael ei glirio. Mae Pontydd Llechryd a Chastellnewydd Emlyn ar gau er mwyn cael asesiadau strwythurol.

Mae’r Cyngor wedi cychwyn casgliad gwastraff cartref swmpus yn rhad ac am ddim i gartrefi sydd wedi eu heffeithio gan lifogydd. I drefnu casgliad, dylid galw 01545 572572.

Blychau nwy yn rhydd yn Llandysul

Llandysul oedd un o’r ardaloedd a effeithiwyd y gwaethaf yn y sir yn dilyn llifogydd. Trwy ymateb i’r digwyddiadau ledled y sir, Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi dysgu bod y llifogydd wedi disodli nifer o flychau nwy. Mae oddeutu ugain ar goll, a disgwylir eu bod yn cael eu cario lawr yr Afon Teifi.

Os daw aelod o’r cyhoedd ar draws flwch, anogir iddynt adael y blychau heb eu cyffwrdd a chysylltu â West Wales Gas ar 01559 362000, rhwng yr oriau o 8:30-5pm, neu 07968 514324 tu allan oriau swyddfa, i drefnu eu casglu yn ddiogel. Mae’r blychau o feintydd amrywiol, ac meant yn las neu yn goch.

15/10/2018