Gorfodwyd Cyngor Sir Ceredigion i gyfyngu ar fynediad at gyfrifiaduron cyhoeddus mewn llyfrgelloedd er mwyn lleihau trosglwyddiad y coronafeirws yn ein cymunedau.

Wrth i lefelau’r coronafeirws barhau i ostwng ac ar ôl cyflwyno'r rhaglen frechu yn llwyddiannus yn y Sir, penderfynwyd caniatáu i’r cyhoedd ddefnyddio’r cyfrifiaduron ym mhob un o lyfrgelloedd y cyngor unwaith eto. Byddwn yn parhau i sicrhau y gellir defnyddio'r llyfrgell a'r cyfrifiaduron cyhoeddus yn y ffordd fwyaf diogel posibl, a fydd yn cynnwys gwisgo masg wyneb, cadw pellter cymdeithasol a diheintio dwylo wrth gyrraedd.

Bydd y cyfrifiaduron cyhoeddus ar gael i’r cyhoedd eu defnyddio o 02 Chwefror 2022 ymlaen. Er mwyn sicrhau bod y llyfrgell yn gallu darparu’r gwasanaeth hwn yn ddiogel, mae nifer o reolau wedi'u rhoi ar waith, sy'n cynnwys:

  • Gwisgo masg (oni bai eich bod wedi'ch eithrio)
  • Trefnu apwyntiad ymlaen llaw
  • Dim ond 60 munud fydd ar gael fesul apwyntiad
  • Un apwyntiad y person y dydd
  • 15 munud ar gyfer pori

Gallwch drefnu eich slot drwy ffonio eich llyfrgell leol, neu drwy anfon e-bost at library@ceredigion.gov.uk

Atgoffir pobl i fod yn wyliadwrus a bod yn ofalus bob amser.

Mae manylion cyswllt ac oriau agor ar gael ar wefan llyfrgelloedd Ceredigion: https://wales.ent.sirsidynix.net.uk/client/cy_GB/cer_cy/

31/01/2022