Ar ddydd Gwener 05 Gorffennaf ym Mhenmorfa, Aberaeron cynhaliwyd Cyngor Chwaraeon Ceredigion y Gwobrau Chwaraeon Ceredigion 2019.

Mae Cyngor Chwaraeon Ceredigion yn ceisio cynorthwyo clybiau chwaraeon a phobl chwaraeon o bob math; o lefel leol - i gynrychioli Ceredigion fel chwaraewyr chwaraeon rhyngwladol.

Dywedodd Cadeirydd Cyngor Chwaraeon Ceredigion, y Cynghorydd Gareth Lloyd, “Mae’r digwyddiad hon, a threfnir mewn partneriaeth â Cheredigion Actif, yn gyfle i ddod a phawb gyda’i gilydd i ddathlu, nid yn unig chwaraeon lleol ond i ddangos cydnabyddiaeth i’r bobl sydd yn dangos cefnogaeth a gweledigaeth o’r ddechrau megis hyfforddwr a gwirffoddolwyr, a hefyd i’r llysgenhadon ifanc ysbrydoledig sydd yn gwneud gweithgareddau chwaraeon cynhwysol i’n hysgolion a chymunedau.”

Dyfarnwyd y wobr fawreddog ‘Hyfforddwr y Flwyddyn Ceredigion’ i Steven Davies, am ei waith gyda chlwb pel-droed merched Tregaron, ‘Tregaron Turfs Ladies Football Club.’ Mae Steve yn eiriolwr trwy annog merched i gymryd rhan mewn gêm bêl-droed yn ifanc.

Ychwanegodd Cynghorydd Lloyd, “Mae 2019 yn flwyddyn fawr i Chwaraeon - mae Cwpan y Byd Pêl-droed Merched wedi bod yn llwyddiant ysgubol gyda dros 1 filiwn o docynnau wedi cael eu gwerthu, sy’n codi proffil chwaraeon menywod mewn modd positif; cynhelir Cwpan y Byd Criced a Chyfres y Lludw ac wrth gwrs, mae disgwyl mawr am Gwpan Rygbi’r Byd yn Japan, pan fydd llawer ohonom yn codi’n gynnar gyda chaniad y cloc larwm er mwyn cael cip ar ein harwyr mewn coch - mae’n siŵr y bydd top pyjamas llawer un wedi’i gyfnewid am grys rygbi!

Mae’r Gwobrau Chwaraeon Ceredigion yn atgoffiad bod fan hyn ydy ble ni’n dechrau, gyda’r Plant Iau Talentog, sydd newydd ddechrau ar eu llwybrau chwaraeon amrywiol, ac ymlaen at ein 24 Chwaraewr Rhyngwladol newydd yng Nghymru sydd eisoes wedi cyrraedd y lefel uchaf un. Estynnwn ein llongyfarchiadau i bawb sydd wedi llwyddo, beth bynnag eich camp a’ch lefel, gan eich bod chi i gyd yn sêr disglair.”

Cafodd 24 o bobl chwaraeon eu cyflwyno gyda thystysgrif goffaol mewn cydnabyddiaeth gan Gyngor Chwaraeon Ceredigion am ddod yn chwaraewyr rhyngwladol a chynrychioli yn y flwyddyn diwethaf.

Cyflwynwyd ‘Gwobr Chwaraeon Talentog Iau’ i 19 cais llwyddiannus am grant. Mae’r grant hwn yn cynorthwyo Plant Talentog Iau o oedran ysgol i gyflawni rhagoriaeth. Mae'r grant ar gael ar gyfer hyfforddiant, mynychu cystadlaethau ac am offer chwaraeon.
Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb am Wasanaethau Dysgu a Dysgu Gydol Oes, “Mae’r cyngor yn ymroddedig mewn cefnogi gweithgareddau chwaraeon a chyfleoedd ledled Ceredigion ac yn falch o gefnogi Cyngor Chwaraeon Ceredigion. Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi cael cydnabyddiaeth am eu cyflawniadau ym myd chwaraeon heddiw, chi gyd yn wir ysbrydoliaeth.”

Cafodd Eddy Roper, disgybl Ysgol Bro Pedr eu gwobrwyo gyda ‘Llysgennad Ifanc y Flwyddyn’ am ei ymroddiad yn darparu cyfleoedd chwaraeon i bobl ifanc. Dyfarnwyd dau ddisgybl o Ysgol Cei Newydd, Henry Doughty ac Ian Moore y wobr am ‘Llysgennad Ifanc Efydd y Flwyddyn’ mewn cydnabyddiaeth o’u hymroddiad nhw mewn darparu sesiynau chwaraeon cynhwysol yn eu hysgol.

Dyfarnwyd Ellie Watkins gyda gwobr ‘Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn’. Mae Ellie’n dychwelyd yn gyson i Geredigion i helpu hyfforddi ac i gynorthwyo mewn sawl digwyddiad chwaraeon, yn cynnwys gŵyliau aml-chwaraeon cynhaliwyd i ysgolion ar draws y sir.

Hefyd, enillodd Cyngor Sir Ceredigion y wobr Arian mewn insport; un allan o saith awdurdod lleol yng Nghymru yn unig sydd wedi derbyn y dyfarniad hwn. Rhoddwyd y wobr am eu hymrwymiad eithriadol i gynhwysiant ac ymwreiddio arferion cynhwysol cynaliadwy o fewn gwasanaethau.

Dyfarnwyd ‘Gwobr Gwirfoddolwr Chwaraeon Anabledd Cymru’ i Nathan Jones, myfyriwr o Ysgol Bro Pedr a fu'n ysgogwr wrth ddarparu gweithgareddau cynhwysol yn ystod ac ar ôl oriau ysgol. Gweithgareddau y mae Nathan wedi bod yn allweddol o ran eu cyflwyno i'r disgyblion yw Karate a phêl-fasged cadair olwyn.

Rhoddwyd gwobrau'r clwb insport i glwb rhwyfo Aberaeron ac Aber kayakers am ddangos ymrwymiad i ddarparu gweithgareddau cynhwysol.

Gwobr barchus arall a gyflwynwyd oedd y 'Gwobr Arwr Tawel'. Mae'r wobr hon yn cael ei rhoi i gydnabod pobl sy'n cyflwyno llawer iawn o'u hamser a'u hymdrech 'y tu ôl i'r sîn' mewn clybiau a thimau chwaraeon. Eleni, derbyniodd dau berson y wobr; Bob Fry, hyfforddwr gwirfoddol ar gyfer Tîm Rygbi Dan 15 Ysgolion Ceredigion ac Emyr James, hyfforddwr clwb golff Aberteifi i blant oedran 7-18 oed.
Am fwy o wybodaeth am waith Ceredigion Actif a Chyngor Chwaraeon Ceredigion, ewch i: www.ceredigionactif.org.uk.

 

 

09/07/2019