Hoffai Grŵp Gweithredu Lleol Cynnal y Cardi glywed gan unigolion, grwpiau cymunedol a sefydliadau cymwys sydd â syniadau arloesol a allai wella'r profiad o fyw a gweithio yng Ngheredigion.

Mae gan Cynnal y Cardi, a weinyddir gan Gyngor Sir Ceredigion, pum thema lle ceisir syniadau o dan y cynllun LEADER. Croesawir pob syniad, ar sail dreigl, a dydd Llun, 11 Mehefin yw’r dyddiad cau nesaf yn 2018 ar gyfer cyflwyno syniadau neu ddatganiadau o ddiddordeb.

Cynorthwyir LEADER, sy'n ceisio cefnogi ymatebion arloesol i gyfleoedd neu sialensiau y mae cymunedau gwledig yn eu hwynebu, trwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariannir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Mae’r pum thema y gall syniadau gael eu cefnogi yn cynnwys: gwella adnoddau naturiol a diwylliannol Ceredigion; hwyluso gweithgarwch cyn-fasnachol a phartneriaethau a rhwydweithiau busnes newydd; archwilio ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau anstatudol, cyfleusterau a gweithgareddau; archwilio cyfleoedd ar gyfer ynni adnewyddadwy a manteisio i’r eithaf ar dechnoleg ddigidol mewn cymunedau lleol.

Dywedodd yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Yr Economi ac Adfywio, y Cynghorydd Rhodri Evans, “Ased mwyaf Ceredigion wledig yw ei phobl. Wrth edrych i wella cymunedau gwledig, dw i’n hyderus bod gan y cymunedau eu hun syniadau arloesol eisoes a dwi’n hybu unrhyw un sydd â syniad i’w rannu gyda Grŵp Gweithredu Lleol Cynnal y Cardi.”

Os oes gennych syniad a'ch bod am ei drafod ymhellach, ac am wybodaeth ynghylch bod yn gymwys am gefnogaeth, ffoniwch Meleri Richards neu Marie Evans ar 01545 572063. I weld sut mae prosiectau eraill yng Ngheredigion wedi elwa o gefnogaeth Cynnal y Cardi, ewch i www.cynnalycardi.org.uk.

Y dyddiadau cau yn 2018 ar gyfer cyflwyno syniadau/datganiadau o ddiddordeb yw: 11 Mehefin; 10 Medi; a 17 Rhagfyr. Croesewir cyflwyniadau yn Gymraeg neu yn Saesneg.

22/05/2018