Mae Ceredigion actif yn cynnal sesiynau wythnosol pêl-fasged sy'n cyfuno pêl-fasged cadair olwyn a rhedeg. Nod y twrnamaint yw cynyddu’r gweithgaredd corfforol y mae pobl ifanc yn cymryd rhan ynddo, cynyddu’r cyfleoedd i blant anabl a rhoi cyfle i bobl ifanc gyd-chwarae ochr yn ochr.

Mae sesiynau wythnosol yn cael eu cynnal mewn pum ysgol yng Ngheredigion, gan gynnwys ysgolion Aberteifi, Aberaeron, Llambed ac Aberystwyth. Cymerodd yr ysgolion ran mewn cystadleuaeth yng Nghanolfan Hamdden Llambed ar nos Fercher, 13 Chwefror, gydag Ysgol Uwchradd Aberteifi yn cipio’r fuddugoliaeth. Byddant nawr yn cynrychioli Ceredigion yn rownd derfynol Cymru yn Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd ar ddydd Iau, 7 Mawrth.

Y Cynghorydd Catrin Miles yw’r aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Dysgu. Dywedodd, “Mae’n bleser i weld fod cymaint o blant ar draws Ceredigion yn cymryd rhan yn y sesiynau hyn. Mae Ceredigion Actif yn gwneud gwaith ardderchog i hyrwyddo pwysigrwydd gweithgareddau corfforol sydd yn sicr yn cynyddu hyder a chymhelliant plant. Mae’n wych i weld bod Ysgol Uwchradd Aberteifi yn mynd ymlaen i’r rownd derfynol yn Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd. Dymunaf bob hwyl iddynt.”

I dderbyn fwy o wybodaeth am yr hyn sydd gan wasanaeth Ceredigion Actif i’w gynnig dros y misoedd nesaf, ewch i’r wefan www.ceredigionactif.org.uk, y tudalennau cyfryngau cymdeithasol trwy @CeredigionActif, neu cysylltwch â’ch canolfan hamdden leol.

25/02/2019