Cynhaliwyd ‘Steddfod Ddwl’ yn Ysgol Bro Teifi ar y cyd gyda Cered: Menter Iaith Ceredigion a siarter iaith yr ysgol ar gyfer disgyblion blwyddyn saith.

Cystadlodd y disgyblion yn eu tai ysgol, sef Teifi, Emlyn a Tysul. Roedd y cystadlaethau yn cynnwys côr garglo, dawnsio i gerddoriaeth pop, stori a sain a sgets pum munud am y Gamp Lawn. Tysul fu’n fuddugol wrth iddyn nhw ennill tlws a ddarperir gan Cered.

Y cyflwynydd Radio Cymru, MarciG oedd yn arwain y ‘steddfod ddwl, gyda’r barnwyr Llinos Hallgarth, Swyddog Datblygu Cered a Lorraine Davies.

Pwrpas y digwyddiad oedd rhoi cyfle i’r disgyblion magu hyder, darganfod talentau newydd a rhoi cyfle iddynt fwynhau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Rhodri Francis yw Swyddog Datblygu Cered. Dywedodd, “Roedd yn ffantastig i weld cymaint o bobl ifanc yn cymryd rhan. Roedd rhai yn perfformio ar lwyfan am y tro cyntaf ac wedi magu gymaint o hyder yn gwneud y tasgau. Llongyfarchiadau i bob unigolyn gymerodd ran yn y ‘Steddfod ddwl - gwych!”

Am fwy o fanylion ynglŷn â digwyddiadau Cered: Menter Iaith Ceredigion, ewch i’w gwefan, cered.cymru neu dudalen Facebook, @ceredmenteriaith, neu cysylltwch drwy ffonio 01545 572 358.

13/05/2019